google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cyhuddo menyw ar ôl marwolaeth 4 o bobl fu’n padlfyrddio yn 2021

Mae menyw wedi cael ei chyhuddo mewn cysylltiad â marwolaeth pedwar o bobl yn dilyn digwyddiad padlfyrddio yn 2021.

Mae Nerys Bethan Lloyd, 39 o Aberafan, wedi’i chyhuddo o bedwar achos o ddynladdiad yn dilyn esgeulustod difrifol ac un trosedd dan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith.

Mae’n dilyn digwyddiad ar yr Afon Cleddau yn Sir Benfro ar ddydd Sadwrn, 30 Hydref 2021.

Arweiniodd y digwyddiad at farwolaeth Paul O’Dwyer, Andrea Powell, Morgan Rogers a Nicola Wheatley.

Ms Lloyd oedd perchennog cwmni Salty Dog, oedd yn cynnal y daith badlfyrddio.

Mae disgwyl iddi ymddangos yn Llys Ynadon Hwlffordd ar 3 Rhagfyr.


Source link

Advertisements

See also  Welsh Open: Williams out as Higgins and Robertson progress

Check Also

‘Dysplasia’r glun ddim wedi dal ni nôl!’: Fflur Dafydd a’i merch Beca

Yn ôl Beca, sydd bellach yn 16 oed, doedd y diagnosis ddim wedi ei hatal …

County Championship: Glamorgan welcome best ever Division One finish

For next year Glamorgan will be losing a total of 35 seasons of experience between …

Rising star Henrich daring to dream of LA Olympics

Welsh 400m athlete Charlotte Henrich has her sights set on Los Angeles having found her …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime