google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

35% o gyffuriau’n cynnwys sylweddau gwahanol i’r disgwyl – arolwg

Advertisements

Rhwng mis Ebrill 2024 a mis Mawrth 2025, derbyniodd WEDINOS 9,784 o samplau – y nifer uchaf yn yr 11 mlynedd ers ei sefydlu.

O’r rhain, roedd 35% yn cynnwys sylweddau gwahanol i’r hyn yr oedd pobl yn meddwl eu bod wedi’i brynu.

Mewn llawer o achosion, roedd y cyffuriau’n cynnwys sylweddau synthetig cryf iawn sy’n gysylltiedig â nifer o risgiau iechyd.

Iechyd Cyhoeddus Cymru sy’n rheoli gwasanaeth WEDINOS, sy’n dweud bod pryder penodol am y nifer cynyddol o nitasenau a gafodd eu darganfod – math o opioid synthetig sy’n gallu bod hyd at 100 gwaith cryfach na morffin.

Roedd y rhain i’w gweld amlaf mewn heroin ac mewn tabledi diazepam ffug.

Mae’r sylweddau hyn wedi’u cysylltu ag o leiaf 333 o farwolaethau sy’n gysylltiedig â chyffuriau yn y DU yn 2024.

Mae’r adroddiad hefyd yn rhybuddio am fêps canabis anghyfreithlon, am iddyn nhw ddarganfod fod bron i 40% ohonynt yn cynnwys canabinoidau synthetig – cemegau llawer cryfach na chanabis naturiol.

Yn ôl yr adroddiad, gall y rhain achosi ffitiau, problemau’r galon a phyliau sydyn o seicosis.


BBC News

Views: 1

See also  South Africa v West Indies - Cricket

Check Also

Y therapydd cerdd sy’n sgwrsio heb eiriau

Ar hyn o bryd mae Awen, sydd wedi arbenigo ar y soddgrwth yn y Royal …

Caernarfon mewn ras i godi £50,000 erbyn yr haf i chwarae yn Ewrop

Yn siarad ar raglen Post Prynhawn fe ddywedodd Mr Evans nad yw’r clwb “yn gallu …

'You first thought is, is that the end of Port Talbot?': Steelworker's fears as fire breaks out

Fire leaves section of roof collapsed on a production line Tata Steel says is offline …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Lexonads | free ad network | automated website traffic.