google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cyhuddo dyn o geisio llofruddio wedi digwyddiad tu allan i orsaf heddlu

Advertisements

Mae dyn 27 oed o Lantrisant wedi cael ei gyhuddo o geisio llofruddio yn dilyn digwyddiad tu allan i orsaf heddlu yn Rhondda Cynon Taf.

Cafodd swyddogion eu galw am 19:00 nos Gwener i adroddiadau bod dyn wedi “achosi aflonyddwch” y tu allan i’r orsaf heddlu yn Nhonysguboriau.

Bu’n rhaid i ddau o’r swyddogion gael triniaeth ysbyty cyn cael eu rhyddhau.

Mae Alexander Stephen Dighton yn wynebu chwe chyhuddiad pellach – ymosod, ymosod ar weithiwr brys, llosgi bwriadol, difrod troseddol, bod ym meddiant arf ymosodol a bod ym meddiant arf llafnog.

Fe fydd yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Merthyr Tudful ddydd Llun.

Dywedodd y Prif Uwcharolygydd Stephen Jones o Heddlu De Cymru: “Hoffwn ddiolch i’r gymuned leol a’r cyhoedd yn ehangach am eu cefnogaeth a’u pryder dros y swyddogion.

“Fe amlygodd ein swyddogion ddewrder mawr a meddwl cyflym yn ystod y ffrwgwd ac, er eu bod yn naturiol wedi’u hysgwyd, rwy’n falch iawn o ddweud na chafodd yr un ohonyn nhw unrhyw anafiadau difrifol.”


BBC News

Views: 0

See also  Cynghrair y Cenhedloedd: Denmarc 1-0 Cymru

Check Also

Dyn yn euog o drefnu saethu menyw yn ne Cymru o’i gell yn y carchar

Mae dyn a oedd eisoes yn y carchar am lofruddiaeth wedi’i gael yn euog o …

Lois Medi yn ennill Cadair Eisteddfod yr Urdd am yr eildro

Lois Medi o Wynedd sydd wedi ennill y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn. …

Prisoner guilty of planning Talbot Green murder from his cell

Ten people, found guilty over two trials, will be sentenced in connection with the murder …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Making digital tools accessible for everyone.