google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Criw o Ben Llŷn am wneud her y tri chopa er cof am ‘un o’n ffrindiau gorau’

Dywedodd John Pugh, un arall sy’n ceisio cyflawni’r her, fod y criw cefnogi wedi bod yn help mawr.

“Mae teulu Matthew a theulu Mari, partner Matthew, wedi bod yma efo ni, ac ma’n neis cael nhw yma yn cheerio ni on.

“Ma’ Ed a Si ar y support vehicles wedi bod yn rhoi dŵr a fflapjacs a chacennau i ni, ma’ nhw’n dda ofnadwy efo ni chwarae teg.”

Esboniodd Arwel Thomas fod yr her yn un yr oedd Matthew eisiau ei gyflawni ei hun, ac felly eu gobaith nhw oedd gwneud hynny ond gyda’r her ychwanegol o feicio rhwng y mynyddoedd.

“Pam ddim ‘neud hi’n sialens go iawn… Ma’ ‘na dipyn o pot holes, ond so far so good!”

Yn ôl Steve Jones, mae’r coesau ychydig yn “stiff a sore” ond ei fod yn gobeithio y bydd cerdded y mynyddoedd yn cynnig “break bach i’r pen ôl!”.

Ychwanegodd Deio fod nifer o bobl wedi bod yn cysylltu â’r criw eisiau dod allan i gefnogi.

“Bydd dod am adra yn neis – ‘dan ni’n cael negeseuon gan bobl o lefydd fatha’r Rhyl isio dod allan i gefnogi, o’dd gen Matthew ffrindiau yn ardal Preston hefyd a ma’ nhw am ddod allan i gefnogi ni.

“Mwy a mwy o gefnogaeth ddaw yn agosach at adra, ma’ sawl un wedi sôn am ymuno efo ni ar yr wyddfa ac wedyn fyddwn ni’n gorffen yng Nghlwb Rygbi Pwllheli.

“Ma’ bach yn overwhelming faint o gefnogaeth ‘dan ni di gael. Ma’n dangos faint o’dd o’n ei olygu i bobl y gymuned.”

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Advertisements




BBC News

Views: 2

See also  Listen: Radio Wales Sport

Check Also

Astronomy superfan, 11, shares tips for watching solar eclipse

His love of the cosmos continued to grow with Efan meeting his hero, astronaut Tim …

Ospreys say Welsh Rugby Union plan of cutting professional team is wrong

Ospreys are currently preparing to play at the revamped St Helen’s ground in Swansea which …

European Athletics Championships 2026: Jeremiah Azu’s joy at 100m silver

After becoming world and European champion over 60m indoors in 2025, Azu finished fourth at …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Xyz domain name — modern, versatile & generational appeal hostrite hosting news updates. Elfbar elfa basic units (battery carrier). Buy elfbar vape the.