google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Robot newydd sy’n helpu plant i gerdded yn ‘rhoi gobaith’ i deuluoedd

Yn ôl Carys a Marc Bowen o Fro Morgannwg, roedd gweld eu mab tair oed, Hopcyn, sydd â pharlys yr ymennydd yn cael profiad o ddefnyddio’r exoskeleton a cherdded yr wythnos hon hefyd yn “amhrisiadwy”.

Cafodd y rhieni wybod na fyddai Hopcyn fwy na thebyg “byth yn gallu cerdded yn annibynnol”.

Maen nhw wedi bod yn talu i’w mab gael sesiynau ffisiotherapi preifat yn Equinox ers mis Chwefror eleni.

“Mae’r cyfle i weld Hopcyn yn sefyll yn dal, yn cerdded yn annibynnol…mae e newydd gerdded am yn ôl a dy’n ni erioed wedi gweld e’n gwneud hynna o’r blaen, mae e’n rywbeth so ni erioed wedi ystyried iddo fe allu gwneud, pethau mae pobl yn dueddol o gymryd yn ganiataol o ddydd i ddydd, ond mae gallu gweld hwn yn amhrisiadwy,” meddai ei fam, Carys.

Er bod presenoldeb y robot eisoes yn bodoli mewn gwledydd eraill fel America, Canada, Yr Undeb Ewropeaidd, Awstralia, Seland Newydd a Singapore, y sesiynau yn Sir Gâr yw’r tro cyntaf i’r cwmni fentro i farchnad y DU.

“O’n i wastad yn meddwl bydde’n rhaid i ni fynd i America neu Lanzarote neu rywle arall i brofi fe ond mae cael e ar stepen drws fel hyn…wel o’n i byth yn meddwl bydde fe’n dod i Gymru,” meddai Marc.

Wrth weld gwerth i dechnoleg fodern fel yr exoskeleton, dywedodd Carys bod “gwybod bod e ddim yn mynd i fod ‘ma yn wythnosol pan ni’n dod am ffisio yn really anodd.

“Mae e fel danglo’r carrot math o beth – ni’n gweld e, ond wedyn mae e’n cael ei gymryd i ffwrdd.

“Mae e’n drueni ond eto mae cael y cyfle yma yn y lle cyntaf, ni’n ddiolchgar iawn am y cyfle.”

Ychwanegodd Marc: “Mae e fel y ffrwyth wenwynig ondyw e? Ni’n rhoi’r cyfle yma iddo fe ond hefyd yn gwybod falle bod e ddim yn mynd i gael e ‘to am sbel fach o leiaf. Ond fi’n credu bod e ‘di rhoi mwy o gymhelliant i ni fel rhieni falle i ‘neud yn siŵr bod ni’n rhoi’r cyfleoedd yna iddo fe adref.

“Mae meddwl ‘nôl i flwyddyn a hanner yn ôl lle o nhw’n dweud fydde fe ddim yn gallu cerdded i heddiw, a chi’n gweld e gyda’r annibynniaeth ‘na, ydi, mae e’n rhoi gobaith i chi bod yna dechnoleg yn mynd i fod sy’n mynd i’w helpu fe, dim just nawr ond yn hŷn hefyd, gobeithio wrth i amser fynd ymlaen.”


BBC News

Advertisements

See also  Sophie Ingle yng ngharfan Euro 2025 Cymru er gwaethaf anaf

Check Also

Cardiff City: Barry-Murphy praises resolve in Boro draw

Cardiff remain in the bottom half of the table after the draw and, after 11 …

Clayface’s Tom Rhys Harries says prosthetics helped performance

Actors are often said to be the face of the film, but in Tom Rhys …

Black Lion 14-39 Ospreys: Welsh side ease to Challenge Cup win in Georgia

Black Lions: Tsirekidze; A Tabutsadze, L Tabatadze, Akhvlediani, R Makhatadze; Babunashvili, Spenderashvili; Abdushelishvili, Kvatadze, Khatiashvili, …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime