google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Thursday , September 3 2026

Colli cynnwys cartref yn llifogydd Cwmbwrla ond gwerthfawrogi help cymuned

Advertisements

Mae Nigel Davies wedi byw yn ei gartref oddi ar gylchfan Cwmbwrla ers 30 mlynedd.

Mae’n gofalu am ei dad 80 oed sydd wedi byw yno ers dros 50 mlynedd.

Ddydd Sul roedd llawr gwaelod eu cartref wedi’i “olchi i ffwrdd yn llwyr”.

“Roeddwn i’n gwylio fy oergell yn arnofio. Mae fy mhysgod wedi marw. Collais yr holl drydan ar gyfer eu tanc.

“Dwi’n cadw dweud wrth fy hun mai dim ond pethau ydyn nhw. Ond mae rhai o’r pethau’n atgofion ac maen nhw’n amhrisiadwy,” meddai.

Ar hyn o bryd mae Nigel a’i dad yn aros mewn llety dros dro sydd ar gael tan ddiwedd yr wythnos yn unig.

Dywed Nigel ei bod hi’n anodd dod o hyd i le addas i aros oherwydd “problemau symud cymhleth” ei dad.

Dywedodd wrth BBC Cymru y bydd hi’n wythnosau neu efallai misoedd cyn y gallen nhw ddychwelyd i’w cartref ond mae’n poeni na fydd e fyth yn ddiogel.

Yn ôl Nigel mae’r sefyllfa yn “anodd” i’w dad.

“Dydy e ddim wedi bod yn dda am yr wythnosau a’r misoedd diwethaf.

“Dydy e ddim yn gallu symud na cherdded heb gymorth ac yna mae’r effaith emosiynol.

“Mae e wedi byw yma am 50 mlynedd, wedi bod yn briod â fy mam am 40 ohonyn nhw. Mae ganddo gymaint o atgofion yn y lle, ac mae llawr gwaelod cyfan y tŷ wedi’i ddinistrio.”


BBC News

See also  'Dim digon o siaradwyr Cymraeg' yn dewis maethu

Check Also

Wrexham news: Parkinson pleased to see transfer window close

Neither side managed a shot on target in the opening half at The Den, although …

Seventh person charged in Cardiff teenagers Thailand drug courier case

A seventh person is facing charges after two teenagers from Cardiff were allegedly trafficked to …

Noah James Sullivan: Pontypridd boy died after brain injury at birth

A 22-month-old boy died after developing a severe brain injury during his birth caused by …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime