google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Codi 20,000 o dai fforddiadwy cyn etholiad 2026 yn dal yn bosib’

Mae’r Gweinidog Cyflawni, Julie James, yn dweud y bydd yn gwneud popeth posib i helpu Llywodraeth Cymru wireddu eu haddewidion ond yn cyfaddef mai “amser byr iawn” sydd yna i wneud hynny cyn etholiadau’r Senedd yn 2026.

Dywedodd hefyd bod yr ymroddiad ym maniffesto Llafur Cymru i adeiladu 20,000 o gartrefi fforddiadwy cyn diwedd tymor y Senedd yn mynd rhagddo “o drwch blewyn”, ond mae hi’n grediniol bod modd cyrraedd y nod.

Fe fydd y cyn weinidog Lee Waters, oedd yn gyfrifol am y ddeddf 20mya ddadleuol, yn helpu’r llywodraeth gyrraedd y targed tai.

Roedd Ms James yn siarad yn gyhoeddus am y tro cyntaf ar raglen BBC Politics Wales ynghylch y rôl a gafodd ei chreu gan y Prif Weinidog Eluned Morgan yn yr haf.

Dywedodd mai ei chyfrifoldeb yw helpu’r ysgrifenyddion cabinet a sicrhau bod pethau’n rhedeg yn llyfn.


Source link

Views: 0

See also  Prifysgol Aberystwyth yn creu bara gwyn iachach

Check Also

Diffyg coed ‘yn peri risgau iechyd’ i bobl trefi fel Caergybi

Mae sawl tref arfordirol ymhlith y llefydd yng Nghymru sy’n wynebu’r bygythiadau amgylcheddol mwyaf oherwydd …

Sut mae ymdopi yn y tywydd cynnes ar faes yr Eisteddfod?

Fe wnaeth Alex Humphreys, cyflwynydd tywydd S4C esbonio pam bod y tywydd mor gynnes: “Mae’r …

DNA yn adnabod criw llong a adeiladwyd yng Nghymru 200 mlynedd yn ôl

Nawr mae anthropolegwyr o Brifysgol Waterloo yng Nghanada wedi astudio’r gweddillion o’r newydd gan ddefnyddio …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Outdoor advertising boards light box signage johannesburg.