google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Diffyg coed ‘yn peri risgau iechyd’ i bobl trefi fel Caergybi

Advertisements

Mae sawl tref arfordirol ymhlith y llefydd yng Nghymru sy’n wynebu’r bygythiadau amgylcheddol mwyaf oherwydd prinder coed, yn ôl yr elusen Coed Cadw.

Mae ymchwil yr elusen yn awgrymu bod Caergybi “yn ardal ble mae 100% o’r boblogaeth drefol yn wynebu risgiau iechyd ac amgylcheddol oherwydd diffyg gorchudd coed difrifol”.

Mae dau o drefi eraill y gogledd hefyd ymhlith pump uchaf y rhestr, wedi i’r ymchwil awgrymu risg i les dros 82% o’r boblogaeth ym Mhrestatyn a 70% o boblogaeth Llandudno.

Mae’r elusen yn rhybuddio bod yr hyn maen nhw’n ei alw’n “ddiffeithdiroedd coed” mewn sawl tref a dinas yn cynyddu’r posibilrwydd o iechyd gwael, llygredd aer a thymereddau uwch.

Caerfyrddin sydd yn y trydydd safle ar restr Coed Cymru, gydag Aberdaugleddau yn berwerydd.

Ystradgynlais, Y Fflint, Aberystwyth, Pen-y-bont ar Ogwr a Sain Tathan sy’n llenwi safleoedd chwech i 10.

Mae Coed Cadw’n dadlau dros sicrhau bod rhwng 20% a 25% o ardaloedd dinesig wedi eu gorchuddio gan goed aeddfed.


BBC News

Views: 2

See also  Water warning as prolonged dry weather hits rivers in Wales

Check Also

Tom Allen: Scarlets sign New Zealand U20 lock from Hurricanes

Allen is the seventh summer signing for Scarlets who have also recruited New Zealand back-rower …

Ansicrwydd am welyau yn y rhan fwyaf o ysbytai cymunedol Powys

Dywedodd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys fod y cynigion yn dal yn y camau cynnar ac …

Galw am fwy o reoleiddio pecynnau tyllu clustiau cartref

Mae Rhian Mansfield, 42, yn ymarferydd tyllu corff proffesiynol ac yn aelod o’r UKAPP. Mae’r …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime