google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Chweched medal aur ym mhencampwriaethau’r byd i Aled Sion Davies

Mae’r Cymro Aled Sion Davies wedi ennill y fedal aur ym Mhencampwriaethau Para Athletau’r Byd, a hynny am y chweched tro yn olynol.

Daeth ei lwyddiant yn y gystadleuaeth taflu maen F63, fel aelod o dîm Prydain Fawr, ar ddiwrnod olaf y pencampwriaethau yn Japan.

Dyma’r ddegfed tro iddo ddod i’r brig mewn pencampwriaeth byd.

Roedd i dafliad o 15.60m bron i fetr yn bellach nag ymgais gorau’r athletwr o Iran, Faisal Sorour, a ddaeth yn ail.

“Mae’n wallgo’ i feddwl ‘mod i wedi ennill 10 teitl byd a chwe theitl byd taflu maen yn olynol,” dywedodd Davies, sydd newydd ddathlu ei ben-blwydd yn 33 oed.

“Does neb wedi gwneud hynny erioed o’r blaen yn y maes.

“Y prif beth eleni yw’r Gemau Paralympaidd, felly mae hyn yn fy mharatai amdano’n eitha’ da.”


Source link

Advertisements

See also  Cwis: Hoff lyfrau plant Cymru

Check Also

Leisa Gwenllian follows in footsteps of Hollywood stars in line-up

The industry here is having “a bit of a moment”, Gwenllian said with a laugh. …

Hawk fighter jets to resume flying at RAF Valley after crash

“The decision has been taken at the highest level, after extensive scrutiny, that the necessary …

Bangor mum fears baby will be scarred for life after hot gravy spill at pub

She then wrapped Neli’s hand and leg in a muslin cloth and took her to …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime