google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , September 2 2026

Ceredigion: Apêl am wybodaeth ar ôl i berson farw mewn gwrthdrawiad

Advertisements

Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad yng Ngheredigion lle bu farw gyrrwr.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A482 rhwng Llanbedr Pont Steffan a Chiliau Aeron tua 21:30 ar nos Fawrth 24 Mawrth.

Dywedodd yr heddlu mai Renault Clio du a Peugeot 208 du oedd yn rhan o’r digwyddiad.

Bu farw gyrrwr y Renault ar y safle, ac mae teulu’r unigolyn wedi cael gwybod.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio ar unrhyw un welodd y gwrthdrawiad, neu sydd â gwybodaeth am y digwyddiad, i gysylltu gyda nhw drwy ffonio 101 neu drwy eu gwefan.

Mae swyddogion hefyd yn awyddus i glywed gan unrhyw un oedd yn yr ardal adeg y digwyddiad ac sydd â lluniau camera dash-cam.


BBC News

See also  Galw ar bleidiau i fynd i'r afael â llygredd dŵr 'peryglus'

Check Also

Boy missing off coast and jobs lost as agency closes

A review of the front page stories from the daily and weekly newspapers in Wales. …

Galw am fwy o ymwybyddiaeth o yrfaoedd ym maes adeiladu Cymru

Dechreuodd Elain James ar gwrs prentisiaeth gradd gyda chwmni Wyn Harries y llynedd. “Fi’n cael …

Y naturiaethwr o Gaerdydd a ysbrydolodd Watership Down

Tra’n byw yn Orielton, cafodd Lockley ei gomisiynu gan Warchodaeth Natur Prydain i gynnal astudiaeth …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime