google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Camgymeriad ‘trychinebus’ wedi arwain at farwolaeth athletwraig

Bu farw athletwraig ac aelod o dîm Prydain yn sgil “camgymeriad trychinebus” gan yrrwr fan wnaeth geisio ei phasio wrth iddi seiclo ar y ffordd.

Roedd Rebecca Comins, 52, yn seiclo ar yr A40 ger Rhaglan, Sir Fynwy, pan gafodd ei tharo gan fan a oedd yn cael ei yrru gan Vasile Barbu.

Dywedodd Barbu, 49, ei fod wedi ei gweld, ond nad oedd yn gwybod pam ei fod wedi ei tharo, gan ddweud y byddai’n gofyn y cwestiwn hwnnw “am weddill ei oes”.

Er iddo wadu achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus, cafwyd yn euog a’i garcharu am bedair blynedd, ar ôl i ymchwiliad heddlu gafodd ei ffilmio gan raglen The Crash Detectives ar y BBC ganfod y byddai wedi gallu ei gweld am 18 eiliad.

Er bod Mrs Comins yn cael ei disgrifio fel “cystadleuydd brwd” gan Triathlon Cymru, fe wnaeth yr ymchwilydd gwrthdrawiadau fforensig, sarjant Cath Raine ddweud ei bod “yn gwneud popeth o fewn ei gallu i fod yn ddiogel”.

“Mae beiciwr diniwed wedi colli ei bywyd o ganlyniad i’r camgymeriad.”


BBC News

Advertisements

See also  Heddlu yn lansio ymchwiliad llofruddiaeth yn dilyn canfod corff

Check Also

Kemi Badenoch leaves door open to Tory support for Plaid government budget

Conservative leader Kemi Badenoch has not ruled out the Welsh Tories helping Plaid Cymru ministers …

World Rally Championship: Elfyn Evans makes steady start to title bid in Sardinia

Eflyn Evans struck a blow against his nearest title rival, but conceded time to another, …

Prince of Wales tells villagers ‘holistic’ approach is needed on flooding

On Thursday, the royal spoke to villagers Rod and Helen Wyatt at their garden gate …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime