google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Heddlu yn lansio ymchwiliad llofruddiaeth yn dilyn canfod corff

Advertisements

Mae ymchwiliad i lofruddiaeth wedi cael ei lansio, a dau wedi cael eu harestio, yn dilyn darganfod corff dynes yn ei chartref.

Heddlu De Cymru sydd wedi lansio’r ymchwiliad, a chafodd y corff ei ffeindio mewn cyfeiriad yn Townhill, Abertawe.

Cafodd Leanne Williams ei ffeindio yn dilyn heddlu yn cael eu galw i’r cyfeiriad am 14:00 ddydd Iau Chwefror 27.

Roedd Leanne Williams yn 47 oed, ac yn byw ar Ffordd Gomer.

Dangosodd archwiliad post-mortem yn y dyddiau’n dilyn, bod anafiadau sylweddol yn gyson hefo ymosodiad, meddai’r heddlu.

Mae dau ddyn wedi cael eu harestio fel rhan o’r ymchwiliad, ac maent yn nalfa’r heddlu ar hyn o bryd.

Dywedodd y Ditectif Brif Uwch-arolygydd, Mark O’Shea, bod y newyddion yn drasig: “Mae’r newyddion trasig yma yn sioc i’r gymuned.”

“Rydym yn gosod symudiadau hysbys olaf Leanne at ei gilydd, o 18:00 ddydd Llun, Chwefror 24, hyd at 14:20 y dydd Iau canlynol pan ffeindiwyd.”

Dywedodd Mr O’Shea hefyd nad ydynt yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad hefo’r achos yma ar hyn o bryd.

Mae tâp ynysu’r heddlu yn parhau yn ei le yn y cyfeiriad yn Ffordd Gomer.


BBC News

Views: 0

See also  O'r Calennig i'r Fari Lwyd: rhai o draddodiadau'r flwyddyn newydd

Check Also

Dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad beic cwad ger Llandrillo

Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd rhwng Llandderfel a Llandrillo. Digwyddodd y …

County Championship: Glamorgan seal innings win over Hampshire

Glamorgan completed a County Championship victory over Hampshire for the first time since 1991, and …

‘Siomedig a dig’ – etholwyr heb bleidleisiau post cyn etholiad

Yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol, mae eu canfaswyr wedi siarad â nifer o bobl yng …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Our free link building tool gives you instant access to contextual links from thousands of websites worldwide.