google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad beic cwad ger Llandrillo

Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd rhwng Llandderfel a Llandrillo.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar y B4401 tua 19:01 nos Sul, ac roedd yn cynnwys beic cwad Honda.

Dywedodd yr heddlu fod y beiciwr wedi ei gyhoeddi yn farw yn y fan a’r lle er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys a’r cyhoedd.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am dystion i’r digwyddiad.

Mae perthnasau agosaf y dyn a’r crwner wedi cael gwybod.

Roedd Uned Ymchwilio Gwrthdrawiadau Fforensig yn y fan a’r lle i gynnal ymchwiliadau cychwynnol, gan arwain at gau’r ffordd am sawl awr.

Diolchodd yr heddlu i’r cyhoedd am eu hamynedd yn ystod y cyfnod hwn.

Dywedodd y Rhingyll Duncan Logan ei fod yn “estyn ei gydymdeimlad dwysaf â theulu’r dyn ar adeg anodd iawn”.

“Mae’r digwyddiad hwn bellach yn cael ei ymchwilio fel gwrthdrawiad traffig ffordd angheuol.”

Mae’r heddlu’n gofyn i unrhyw un a oedd yn teithio neu’n cerdded yn yr ardal ac sydd â gwybodaeth, lluniau teledu cylch cyfyng, dashcam neu fideo ffôn symudol i gysylltu â nhw.


BBC News

Advertisements

See also  Mother who killed son given indefinite hospital order

Check Also

Kemi Badenoch leaves door open to Tory support for Plaid government budget

Conservative leader Kemi Badenoch has not ruled out the Welsh Tories helping Plaid Cymru ministers …

World Rally Championship: Elfyn Evans makes steady start to title bid in Sardinia

Eflyn Evans struck a blow against his nearest title rival, but conceded time to another, …

Prince of Wales tells villagers ‘holistic’ approach is needed on flooding

On Thursday, the royal spoke to villagers Rod and Helen Wyatt at their garden gate …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime