google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cae Pawb Porthmadog yn rhoi bwyd ar blât drwy gydol y flwyddyn

Advertisements

Mae Rhys hefyd yn hoffi arbrofi ar y rhandir ac mae’n tyfu ffrwyth ciwi.

“Maen nhw fatha bwledi ar y funud – tydyn nhw ddim yn barod. Eleni ydi’r flwyddyn gyntaf iddyn nhw flodeuo. Mae’n siwr fod yna fis arall o dyfu ac aeddfedu iddyn nhw. Gawn ni weld mewn rhyw fis os fydden nhw’n fwytadwy neu beidio.”

Mae Porthmadog yn le delfrydol i dyfu llysiau oherwydd ei leoliad, gyda’r gwynt yn cynhesu wrth ddod dros y mynyddoedd i ochr orllewinol Cymru ac mae ‘na lot o law hefyd yn disgyn yn y dref, sy’n arwydd gwych i unrhyw arddwr.

Dechrau garddio’n ifanc iawn wnaeth Rhys drwy blannu ambell botyn yn yr ardd gefn,

“Dyma’n fi’n sylwi yn fuan iawn – os dwi eisiau tyfu lot o fwyd fyddai angen tir. Gan fod gynnon ni ddim pridd yn yr ardd gefn, dod i’r rhandir oedd y dewis gorau gan fod Cae Pawb mor agos i dŷ Mam.

“Mae gen i ddau blot erbyn rŵan ac yn tyfu llwyth o lysiau pob blwyddyn.

“Syniad rhandir, wrth gwrs, yw i rywun sy’n byw mewn tref neu ddinas sydd heb ddarn o bridd yn eu gardd cefn, ond mae rhandir yn rhoi’r cyfle yna i bobl dyfu llysiau ac mae Cae Pawb wedi bod yma ers y 1880, felly 140 o flynyddoedd o dyfu llysiau yma.

“Mae hi mor bwysig i fwyta pethau organig a llysiau o’r ddaear sydd heb gael eu prosesu, er mwyn lles eich hunan fwy na dim, ond dwi’n gwerthfawrogi ‘sgen pawb ddim yr amser i dyfu llysiau eu hunain.

“Dwi hefyd yn sylwi fod ‘na ambell berson yn ddihyder pan mae hi’n dod i dyfu llysiau. Dwi dal i ddysgu rhywbeth pob dydd, ac mae’n iawn i fethu. Dwi wedi tyfu llysiau gwych a rhai ofnadwy dros y blynyddoedd –mae o’n lot o trial and error.” meddai.


BBC News

Views: 1

See also  Gerrard came 'very close' to Rangers return but job 'not perfect'

Check Also

Pontardawe carer jailed for abusing 81-year-old woman in care home

A “heartless and cruel” carer who was caught on camera abusing an 81-year-old woman with …

Commonwealth Games 2026: Identical Roper twins both win bronze medals for Wales

The identical Roper twins created a slice of Wales team history as the gymnasts both …

Canfod corff caiaciwr coll a’r chwilio’n parhau am ail ddyn

Mae corff un o ddau gaiaciwr aeth ar goll ym Mhwllheli chwe diwrnod yn ôl …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
fitness tracker smart watch heart monitor hikerstore.