google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Canfod corff caiaciwr coll a’r chwilio’n parhau am ail ddyn

Mae corff un o ddau gaiaciwr aeth ar goll ym Mhwllheli chwe diwrnod yn ôl wedi ei ganfod ar draeth yng Ngheredigion.

Cafodd Connor Parfitt a Simon Wilson eu gweld ddiwethaf ger traeth Hafan Y Môr tua 18:30 ddydd Mawrth 21 Gorffennaf.

Cafodd swyddogion eu galw amser cinio ddydd Sul yn dilyn adroddiadau bod corff wedi ei ddarganfod ar draeth yn Aberystwyth.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau mai corff Mr Parfitt oedd hwnnw, a bod ei deulu a’r crwner wedi cael gwybod.

Does dim golwg eto o Mr Wilson, ac mae swyddogion y llu yn parhau i roi cefnogaeth i’w deulu.

“Mae fy meddyliau’n parhau gyda theuluoedd Connor a Simon ar yr adeg hynod anodd yma,” dywedodd y Prif Arolygydd Stephen Pawson.

“Nid dyma’r canlyniad roedd unrhyw un ohonom wedi gobeithio ei weld, gan gynnwys y timau chwilio.”

Mae’r heddlu wedi mynegi diolch i’r holl asiantaethau, gwirfoddolwyr ac aelodau’r cyhoedd sydd wedi helpu chwilio am y ddau ddyn yn y chwe diwrnod diwethaf, ac yn dal yn apelio am wybodaeth all arwain at ddod o hyd i Mr Wilson.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Advertisements




BBC News

Views: 2

See also  Treth ar danwydd: Pryder am effaith cynnydd posib ar gefn gwlad

Check Also

Cardiff nans who befriend pro wrestler DeReiss Gordon on Vegas flight take to the ring

Recalling what it was like to meet the group for the first time, Gordon said …

Axel Donczew: Arsenal poised to sign Cardiff City teenager

Premier League champions Arsenal are close to completing the signing of Cardiff City teenager Axel …

One Day Cup: Shellshocked Glamorgan face Ben Stokes’s Durham

Glamorgan’s One Day Cup campaign does not get any easier with Ben Stokes’s in-form Durham …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Elfbar elfa watermelon mojito 20 mg 2 pods.