google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Pryderon am y broses o ddwyn gwasanaethau tân i gyfrif

Dechreuodd astudiaeth Archwilio Cymru cyn i Lywodraeth Cymru benodi pedwar Comisiynydd i redeg awdurdod tân ac achub De Cymru ym mis Chwefror 2024 ar ôl adroddiad damniol am aflonyddu rhywiol a chasineb tuag at ferched.

Mae’r awdurdodau tân ac achub yn gyfrifol am hyrwyddo diogelwch tân, ymladd tân, ymateb i ddamweiniau ffyrdd a delio ag argyfyngau eraill. Mae cynghorwyr yn cael eu henwebu i wasanaethu arnyn nhw.

Mae’r adroddiad yn dweud fod risg nad oes gan aelodau etholedig y sgiliau na’r wybodaeth angenrheidiol i allu cyflawni eu gwaith yn effeithiol ac mae’n nodi bod angen i awdurdodau tân ac achub ddarparu hyfforddiant sylweddol i aelodau.

Mae’n dweud efallai na fydd hyn yn ddigon i liniaru’r risg yma oherwydd trosiant uchel o aelodau ac mae maint yr awdurdodau yn ei gwneud hi’n anodd datblygu aelodaeth “wybodus sydd â diddordeb”.

Ychwanegodd fod penodi aelodau awdurdodau tân ac achub o gynghorau lleol hefyd wedi arwain at ddiffyg amrywiaeth.

Mae mwyafrif aelodau’r Awdurdod yn ddynion, gydag ychydig iawn ohonyn nhw o gefndir du, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig, meddai.


Source link

Views: 0

See also  Twins discover they are identical after cancer diagnosis at 23

Check Also

Heddlu’n ymchwilio i lofruddiaeth ar ôl marwolaeth dyn, 74

Mae’r heddlu wedi lansio ymchwiliad llofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dyn 74 oed ddydd Iau. Dywedodd …

Cadarnhau cynllun am gofeb i’r Frenhines Elizabeth II yng Nghymru

Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y bydd cyllid yn cael ei roi tuag at …

Scrap Senedd, 'net zero' and 'political correctness', says Heritage Party

The party is standing candidates in all 16 constituencies in Wales, the only smaller party …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime