google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Heddlu’n ymchwilio i lofruddiaeth ar ôl marwolaeth dyn, 74

Advertisements

Mae’r heddlu wedi lansio ymchwiliad llofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dyn 74 oed ddydd Iau.

Dywedodd Heddlu Gwent bod swyddogion wedi eu galw i Drefddyn ger Pont-y-pŵl am 16:55 ar 23 Ebrill, wedi adroddiadau bod dyn wedi cael anafiadau difrifol. Cafodd y dyn ei gyhoeddi’n farw.

Mae dyn 37 oed o Gwmbrân wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, ac mae’n parhau yn y ddalfa.

Dywedodd yr heddlu bod y ddau ddyn yn adnabod ei gilydd, ac nad ydyn nhw’n edrych am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad.

Mae’r heddlu wedi gofyn i bobl beidio â dyfalu ynghylch amgylchiadau’r digwyddiad, ac maen nhw’n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda nhw.


BBC News

See also  Annog rhoi organau wedi i drawsblaniad rhoi golwg yn ôl

Check Also

Rhieni o Gaerdydd wedi ‘cael ein babi nôl’ ar ôl i ddyfais achub ei fywyd

Eu gobaith yw annog ac ysbrydoli eraill i drafod rhoi organau plant – pwnc maen …

Tour of Britain: Stage winner Lorena Wiebes on Finlay Tarling death

British rider Hayley Simmonds, holder of three British time trial records, has been vocal about …

Angen i’r llywodraeth ‘ddysgu gwersi’ wedi’r holl danau gwyllt

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub y De: “Rydym yn ddiolchgar iawn am …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime