Bywyd o aros a gobeithio gyda thiwmor yr ymennydd

E6a4b980 0a4d 11f0 97d3 37df2b293ed1.jpg

Ti ddim yn clywed gymaint â hynny am diwmorau yr ymennydd, ac roedd y diagnosis yn sioc enfawr. Dim ond ar ôl ymchwilio ti’n sylweddoli gymaint o bobl mas ‘na sydd â thiwmor. Ond mae ‘na gymaint o fathau gwahanol, ac mae profiadau pawb yn wahanol.

Roedd gan fy ffrind i meningioma ond hefyd math arall o diwmor oedd yn effeithio ar ei golwg hi. Ac fel artist, roedd hynny’n anodd iawn iddi.

Cafodd lawdriniaeth i dynnu’r tiwmor yna, ond roedd wedi dechrau mynd yn wael iawn ac yn dechrau effeithio ar ei chlyw hefyd, wrth aros am y lawdriniaeth.

Roedd hi gymaint o ofn meddwl beth allai ddigwydd iddi.

Roedd fy nhad wedi dechrau cael trafferthion cof, wedyn roedd e’n gyrru yn rhyfedd, ac oedd e wedi mynd yn sâl cyn cael diagnosis. Yn lwcus, does yna ddim cysylltiad geneteg rhwng tiwmors fy nhad a fy un i.

Roedd e’n ddyn ysbrydol iawn, ac roedd e’n gwbl sicr ei fod am wella, ac roedd hynny’n beth anodd i fyw gyda, achos o’n i’n gweld ei fod ddim yn gwella, ac roedd hi’n amlwg fod ganddo ddim llawer o amser ar ôl. Roedd e drosodd o fewn rhyw chwe mis. Ofnadwy ond cyflym.


BBC News

Check Also

Ed24bb80 244b 11f0 8f57 b7237f6a66e6.jpg

Will a heatwave hit this week?

We’re about to get a taste of summer, with lots of sunshine forecast this week. …

Leave a Reply

A good advisor should be happy to explain their fee structure in plain english, without any jargon or obfuscation.