google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Arloeswr AI o Gymru yn galw am “ddewrder” wrth ymdopi a’r dechnoleg

Advertisements

Mae parthau twf AI wedi’u cyhoeddi yng ngogledd a de Cymru yn ddiweddar, tra bod Cynllun AI Cymru, dolen allanol yn addo defnyddio AI i “yrru twf economaidd, gwella gwasanaethau cyhoeddus… ac arfogi pobl ledled Cymru â’r sgiliau i ffynnu”.

Ond mae’r pŵer cyfrifiadurol sydd ei angen i brosesu a chynnal gwasanaethau AI yn gofyn am grid trydan nad yw ar gael ym mhob rhan o Gymru.

Mae protestiadau sylweddol wedi bod yn erbyn cynlluniau i gynyddu capasiti’r grid trydan yng nghanolbarth Cymru, oherwydd bwriad y gweithredwr i godi peilonau ar draws ardaloedd gwledig.

“Mae canolbarth Cymru yn cael ei than-wasanaethu’n gronig gan seilwaith grid modern,” meddai Stuart George, prif weithredwr Green GEN Cymru.

Er gwaethaf gwrthwynebiad cryf, dywedodd Mr George fod ehangu’r grid yn hanfodol i ateb y galw presennol a’r galw yn y dyfodol.

“Mae cymaint mwy o fudd yn dod o foderneiddio’r grid.

“Pan edrychwch ar y dyfodol – cerbydau trydan, systemau gwresogi trydanol. Ar hyn o bryd, mae’n amhosibl i fusnesau ddatgarboneiddio a thyfu yng nghanolbarth Cymru.”

Rhybuddiodd y gallai Cymru “golli allan” ar y ras AI os nad oes gan y wlad y seilwaith i ddenu canolfannau data ac ymchwil.


BBC News

Views: 0

See also  Zoe Backstedt powers to time-trial win at Vuelta a Extremadura

Check Also

Diffyg ar yr haul mwyaf ers 1999 yn cael ei weld ar draws y wlad

Mae diffyg ar yr haul yn digwydd pan mae’r lleuad yn symud rhwng yr haul …

Dolly Parton just gorgeous’ recalls The One Show Alex Jones

Dolly Parton may be known for her glamorous wigs and full face of make-up, but …

Lluniau: Dydd Mawrth yn Sioe Môn

Mae Sioe Môn yn un o’r gwyliau amaethyddol fwyaf yng Nghymru, gan ddenu degau o …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Nikotinsalz elfbar elfliq strawberry ice 10mg. Elfbar elfa kit.