google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Tri wedi eu cyhuddo ar gam o droseddau rhyw yn sgil ‘nam technegol’

Advertisements

Roedd y tri gafodd eu cyhuddo’n gwbl ddi-euog ac fe gafodd y troseddwr a oedd yn byw gerllaw, ei erlyn maes o law.

Casglodd y tribiwnlys fod y tri wedi dioddef sgil effeithiau pellgyrhaeddol o ganlyniad i’r cyhuddiadau.

Cafodd un wybod na allai ei phlant fyw gyda hi heb oruchwyliaeth ac roedd y ddau arall yn wynebu camau diogelu plant.

Wynebodd un gyfyngu ar ei ddyletswyddau yn y gwaith tra chollodd y llall gynnig swydd.

Er hynny fe ddyfarnodd y tribiwnlys fod yr heddlu wedi gweithredu o fewn y gyfraith a bod y camgymeriad wedi digwydd o ganlyniad i nam technegol.

Casglodd y tribiwnlys hefyd fod y pwerau ddefnyddiodd yr heddlu yn gymesur ac yn angenrheidiol wrth geisio atal troseddu.

Doedd dim achos am iawndal, casglodd y tribiwnlys, am fod yr heddlu wedi gweithredu o fewn y gyfraith ac wedi ymateb yn briodol pan ddaeth y camgymeriad i’r golwg.

Fe ddywedodd Heddlu Dyfed-powys eu bod yn cydnabod y loes gafodd ei achosi i’r tri gafodd eu cyhuddo ar gam gan nodi eu hurddas a’u cydweithrediad.

Maen nhw wedi croesawu’r dyfarniad sy’n dangos nad oedd bai ar yr heddlu a bod y camau a gymerwyd wrth ymchwilio yn gyfreithlon, yn gymesur ac yn angenrheidiol.

Er yr amgylchiadau anodd, maen nhw’n fodlon bod y troseddwr yn yr achos hwn wedi wynebu cyfiawnder.

Mae BBC Cymru wedi gofyn i BT am ymateb.


BBC News

Views: 1

See also  Woman, 36, in court charged with attempted murder in Aberdeen

Check Also

Merthyr mum says working in McDonald’s helped with midwifery career change

“It’s lovely to be able to support women,” she said. “There’s a lot of people …

Women’s Six Nations: Wales skill development ‘needs to be better’ – Ashley Beck

Wales interim attack coach Ashley Beck says the team needs better skill development to compete …

Ffilm ffantasi fawr yn cael ei ffilmio yng nghastell Conwy

Bydd y criw cynhyrchu hefyd yn defnyddio neuadd yr eglwys a rhai adeiladau cyfagos eraill …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Lexonads | free ad network | automated website traffic.