google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Thursday , September 24 2026

Protestiadau ar draws Cymru dros lygredd carthffosiaeth

Dywedodd Meg Davies o’r elusen Surfers Against Sewage, sydd hefyd yn byw’n lleol, fod y gefnogaeth yn Llanberis wedi bod yn “galonogol”.

Ychwanegodd fod 57 o brotestiadau tebyg wedi digwydd ar draws y Deyrnas Unedig dros y penwythnos.

“Mae’n bwnc anferth yn ein cymunedau ar hyn o bryd,” meddai.

“Rhoi cyfle i’r gymuned godi eu llais ydy hyn, mae’r llyn mor bwysig i bobl leol a hefyd twristiaeth, mae hi mor bwysig fod pobl yn cael cyfle i ddangos pa mor bryderus ydyn nhw.

“Mae hi mor bwysig fod y llyn yma yn ddiogel a nad ydy pobl yn mynd yn sâl.”

Dywedodd prif weithredwr Surfers Against Sewage, Giles Bristow, fod system ddŵr Cymru yn “methu’n drychinebus”.

“Mae dyfroedd llygredig, biliau uchel a diffyg atebolrwydd wedi creu sefyllfa annerbyniol,” meddai.

Dywedodd Kate Bassett-Jones, oedd yn arwain protest yn Aber Llydan yn Sir Benfro, fod ei thraeth lleol wedi gweld 116 o rybuddion carthffosiaeth yn ystod 2025.

“Dylai pobl leol allu mwynhau’r môr yn ddiogel drwy’r flwyddyn,” meddai.


BBC News

Advertisements

See also  Siân Phillips am gymryd cam yn ôl o'r llwyfan yn 93 oed

Check Also

Mum's £1.5m appeal to save son and apology for bin collections wait

A review of the front page stories from the daily newspapers in Wales. BBC News …

Cristiano Ronaldo: When Craig Bellamy watched on as Portugal great caused airport lockdown – Craig Bellamy

For all of the spotlight on Ronaldo and his team-mates, Bellamy knows his full focus …

‘Colli Dros Frecwast a Dros Ginio ar foreau Sadwrn yn ergyd drom’

Mae Newyddion S4C yn deall i staff gael gwybod mewn cyfarfodydd gyda rheolwyr ddydd Mercher …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime