google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Apêl heddlu wedi gwrthdrawiad angheuol ym Môn

7140d060 3ed3 11f0 835b 310c7b938e84.jpg

Advertisements

Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am dystion ar ôl i ddynes farw wedi gwrthdrawiad un cerbyd ar ffordd yr A5 rhwng Y Fali a Chaergybi.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad mewn ardal sy’n cael ei hadnabod fel Y Cob rhywdro rhwng 23:00 ddydd Sadwrn 31 Mai a 00:14 fore Sul 1 Mehefin.

Fe aeth y gwasanaethau brys â’r ddynes i’r ysbyty lle bu farw.

Dywedodd Sarjant Leigh McCann o’r Uned Troseddau ar y Ffyrdd bod plismyn yn apelio am dystion.

“Rwy’n annog unrhyw un a allai fod wedi bod yn yr ardal ar y pryd, unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, neu unrhyw un a welodd Citroen C3 du yn cael ei yrru yn yr ardal rhwng yr amseroedd hyn, i gysylltu â ni,” meddai.

“Rwyf hefyd yn gofyn i unrhyw un sydd â theledu cylch cyfyng neu gamera dashfwrdd i gysylltu.

“Mae ein meddyliau gyda theulu’r ddynes ar yr adeg anodd iawn yma.”


BBC News

Views: 0

See also  Dropping to three regions would benefit Welsh rugby - Davies

Check Also

Ymgeisydd Reform a gamodd yn ôl dros lun saliwt i gynghori’r arweinydd

Ar ôl i’r llun ddod i’r amlwg yn ystod ymgyrch yr etholiad, dywedodd Reform eu …

Beach-goers enjoy record May heat in New Quay, Wales

A seaside town was packed with visitors over the bank holiday weekend as people made …

Heledd Wynn Newton yw prif gyfansoddwr Eisteddfod yr Urdd

Heledd Wynn Newton o Gaerdydd sydd wedi ennill medal prif gyfansoddwr Eisteddfod yr Urdd Ynys …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
ad campaigns are created automatically based on each website’s content.