google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Academi ffilm o Gymru’n anelu am wobr mewn gŵyl ryngwladol

Mae’r academi yn gynllun unigryw. Dyma’r ysgol ffilm gyntaf o’i math yng Nghymru, lle does yna ddim ffioedd i blant a’u teuluoedd.

Fe gafodd ei sefydlu tua wyth mlynedd yn ôl, ac mae’n cael ei noddi gan elusennau gan gynnwys Plant mewn Angen, ac mae croeso i ieuenctid o bob cwr o Flaenau Gwent a thu hwnt.

Mae tua 110 o bobl ifanc yn aelodau o’r academi, sy’n cwrdd tair gwaith yr wythnos ac yn cynnal dosbarthiadau yn cynnwys actio, sgriptio, gwaith camera, colur a chynhyrchu ffilm.

Yn ôl Kevin Phillips mae’r academi yn gwneud mwy na dysgu sgiliau technegol yn unig.

“Mae gwaith tîm yn bwysig i ni fan hyn, ac mae gwaith tîm gwych yn helpu i gynhyrchu ffilmiau gwych!”

Wrth i mi gyrraedd yr academi roedd tua 30 o bobl ifanc o bob oed wrthi yn ymarfer ar gyfer cynhyrchiad mawr sydd ar waith gan y myfyrwyr ar hyn o bryd.


Source link

Views: 0

See also  ‘You don’t realise what a powerful experience it is’

Check Also

Plan to expand free childcare in Wales faces serious challenges, figures show

Councils are struggling to deliver the previous government’s more limited offer on childcare. BBC News …

Carys Garnon James: Mae’r Gymraeg yn rhan ohonof i

“Ges i dipyn o sioc – do’n i ddim yn disgwyl hyn o gwbl, ond …

Ymlusgiaid sy’n gohirio adeiladu ysgol Gymraeg yn cael eu symud

Amcangyfrifwyd yn wreiddiol y byddai symud yr ysgol i safle mwy yn costio tua £18.6m, …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
In the case, you are on this page occassionally, here is some info about the vastoftools website :. Die versandkosten betragen nur 6,00. © 2026 coconut point residences.