google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Arestio dau yn dilyn gwrthdrawiad sawl cerbyd sydd wedi anafu plentyn pump oed

Mae dau ddyn wedi eu harestio yn sgil gwrthdrawiad rhwng pedwar cerbyd a arweiniodd at blentyn pump oed yn cael anafiadau all bygwth ei fywyd.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A4067 ger Craig-y-Nos ym Mannau Brycheiniog tua 17:50 ddydd Sul 5 Gorffennaf.

Roedd y gwrthdrawiad yn cynnwys Ford Fiesta gwyrdd, Ford Fiesta melyn, Volkswagen Polo du a Vauxhall Grandland llwyd.

Cafodd pump eu hanafu’n ddifrifol a’u cludo i’r ysbyty am driniaeth – yn eu plith roedd plentyn pump oed. Mae’r plentyn mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty.

Mae gyrrwr y Ford Fiesta gwyrdd, dyn 39 oed, wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi anaf difrifol drwy yrru’n beryglus ac esgeuluso plentyn.

Cafodd gyrrwr y Ford Fiesta melyn, dyn 65 oed, ei arestio hefyd a hynny ar amheuaeth o achosi anaf difrifol drwy yrru’n beryglus.

Mae’r ddau’n parhau yn y ddalfa.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am unrhyw wybodaeth.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Advertisements




BBC News

Views: 1

See also  Myeloma: Sea is a sanctuary for surfer living with cancer

Check Also

Rhaid i gwmni peilonau roi gwell rhybudd cyn cael mynediad i dir – Uchel Lys

Dywedodd llefarydd ar ran Green GEN Cymru bod y dyfarniad “yn rhoi eglurder ynghylch defnyddio …

Anthony Hopkins’ England shirt World Cup post divides fans

Sir Anthony Hopkins has prompted a flurry of divided reaction after sharing a photograph of …

Cwpl yn gorfod talu £8,000 am fethu â rheoli sŵn yng Nghaerdydd

Bydd yn rhaid i bâr o Gaerdydd dalu cyfanswm o bron i £8,000 mewn dirwyon …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
gadget product reviews.