google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cwpl yn gorfod talu £8,000 am fethu â rheoli sŵn yng Nghaerdydd

Advertisements

Bydd yn rhaid i bâr o Gaerdydd dalu cyfanswm o bron i £8,000 mewn dirwyon a chostau am fethu â rheoli sŵn o leoliad busnes maen nhw’n ei redeg.

Dywed Cyngor Caerdydd fod Keith a Caroline Munro wedi “methu â chydymffurfio dro ar ôl tro â gofynion cyfreithiol i reoli sŵn” oedd yn deillio o safle Kings Road Yard ym Mhontcanna.

Fe gymerodd y cyngor gamau yn eu herbyn “yn dilyn cwynion lluosog gan drigolion lleol” ynghylch sŵn gormodol, gan gynnwys “cerddoriaeth chwyddedig [a] sŵn cwsmeriaid yn ymgynnull yn y safle”.

Plediodd y ddau berchennog yn euog i dorri hysbysiad atal sŵn mewn gwrandawiad yn Llys Ynadon Caerdydd.

Clywodd y llys bod y sŵn “wedi cael effaith andwyol sylweddol ar drigolion cyfagos, gan effeithio ar eu gallu i fwynhau eu cartrefi a’u gerddi ac effeithio ar ansawdd eu bywyd”.

Bydd yn rhaid i’r ddau ddiffynnydd dalu cyfanswm o £3,900 yr un – dirwy o £1,000, sef £200 yr un am bum trosedd; cyfraniad o £2,500 tuag at gostau erlyn a gordal dioddefwr o £400.


BBC News

Views: 2

See also  'Dwi mewn lle da': Rhedeg hanner marathon am resymau arbennig

Check Also

Mabel Wulff: Y Gymraes fu’n gwrthwynebu’r Gestapo

Roedd gan y Gestapo ddiddordeb mawr yn yr eglwys Anglicanaidd yma a oedd â gofalwr …

Abbie Fleming: Wales forward joins PWR rivals Leicester Tigers after Harlequins exit

Leicester finished bottom of PWR last season, losing all 16 of their league games. Collecting …

Boy had face of ‘pure hatred’ while attacking Milford Haven teacher, Swansea court told

A teenager had a face of “pure hatred” as he launched at his teacher with …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Best solar powered pool skimmers in 2026.