google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cyngor Sir Gâr wedi methu cydymffurfio â safonau iaith wrth gau ysgol gynradd

Advertisements

Mae Cyngor Sir Gâr wedi methu cydymffurfio â safonau’r iaith gyda’u penderfyniad i gau Ysgol Gynradd Llansteffan, yn ôl Comisiynydd y Gymraeg.

Cafodd ymchwiliad ei gynnal ar ôl i Gymdeithas yr Iaith honni nad yw’r cyngor wedi ystyried effaith y cynnig yn llawn ar yr iaith Gymraeg, gan gynnwys addysg Gymraeg i blant yr ardal a gweithgareddau Cymraeg yn y gymuned.

Fe wnaeth aelodau’r cyngor bleidleisio o blaid cau Ysgol Llansteffan ym mis Mawrth, gyda drysau’r ysgol i gau yn swyddogol ar ddiwedd mis Awst.

Yn ei hadroddiad, dywedodd y Comisiynydd “ni lwyddodd y Cyngor i gydymffurfio â gofynion [safonau llunio polisi] yn yr asesiad effaith ar y Gymraeg a gyhoeddwyd ynghyd â’r Hysbysiad Statudol i gau’r Ysgol”.

Mae Cyngor Sir Gâr wedi cael cais am sylw.


BBC News

Views: 3

See also  Cadeirlan Bangor yn ystyried diswyddo dwy ran o dair o'i gweithlu

Check Also

Public urged to keep away from wildfires as Eryri drone operators rescued

Search and rescue volunteers are urging people to stay away from wildfires, after two people …

The Rapture: Heatwave thriller resonates in today’s world – Iwan Rheon

Rheon has also shared the screen with Michael Sheen in the upcoming British si-fi comedy …

Prince of Wales boat tragedy that killed 15 remembered 60 years on

“This happened in the morning, at about 11 in the morning, and I was just …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Redid semi hollow body electric guitar rd 100 jazz…. » big video.