google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dyn 20 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ger Pwllheli

Advertisements

Mae dyn 20 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ger Pwllheli.

Cafodd Heddlu’r Gogledd a’r Gwasanaeth Ambiwlans eu galw i wrthdrawiad ar yr A499 rhwng Llanaelhearn a’r Ffôr, toc wedi 22:00 nos Sadwrn wedi adroddiadau bod sawl cerbyd, gan gynnwys Ford Fiesta du ac Audi A3 coch, wedi gwrthdaro.

Cafodd pedwar ambiwlans eu hanfon i’r digwyddiad, ond er gwaethaf ymdrechion y parafeddygon roedd gyrrwr y Ford Fiesta, sef dyn 20 oed, wedi marw yn y fan a’r lle.

Cafodd dau berson eu cludo i’r ysbyty mewn ambiwlans awyr ac un person ei gludo mewn ambiwlans.

Mae teulu’r dyn a fu farw wedi cael gwybod, yn ogystal a’r crwner, yn ôl yr heddlu.

Dywedodd y prif swyddog ymchwilio, y Sarsiant Duncan Logan o’r Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol: “Rwy’n cynnig fy nghydymdeimlad dwysaf i’r teulu yn ystod yr amser anodd hwn.

“Hoffwn ddiolch yn bersonol i bawb a stopiodd i helpu a chefnogi’r gwasanaethau brys.

“Rwy’n annog unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad, neu a allai fod wedi bod yn teithio neu’n cerdded yn y cyffiniau ac sydd â lluniau o’i ffôn symudol neu dash cam, i gysylltu cyn gynted â phosibl.”


BBC News

Views: 2

See also  Carwyn Jones: 'Reform yn fygythiad i'r Blaid Lafur yng Nghymru'

Check Also

Welsh language policy has been misunderstood, says council

Councillors have criticised “negative” press reports, arguing the new policy will help staff to “upskill”. …

Sylw ‘Welsh lad?’ Arron Banks yn hiliol, yn ôl ymgeisydd Reform

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: “Roedd sylw Arron Banks yn hiliol, ond mae Farage …

Chwaraeon y penwythnos: Sut wnaeth timau Cymru?

Gemau olaf cynghrair bêl-droed Lloegr, ffeinal gemau ail gyfle’r Cymru Premier a rownd gynderfynol Cwpan …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
An impacting, informative, inspirational daily podcast.