google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Pryderon am ‘felltith’ ffrog briodas ail-law

Advertisements

Roedd y rhan fwyaf o briodferched a gymerodd ran yn yr ymchwil yn poeni am yr amgylchedd ac yn hoffi’r syniad o ddewisiadau mwy gwyrdd ond nid oedd cynaliadwyedd yn dylanwadu ar y penderfyniad terfynol wrth edrych ar ffrogiau.

Mae Bronwen Barclay, 35, o Fro Morgannwg yn rhedeg Bridal Reloved Cardiff – siop sy’n gwerthu ffrogiau priodas ail-law.

Cafodd ei hysbrydoli i ddechrau ei busnes ar ôl ymgais i ddod o hyd i’w ffrog briodas ei hun.

Gyda diddordeb mawr mewn cynaliadwyedd, roedd am roi ail gyfle i wisg.

Dywedodd Bronwen ei bod wedi prynu ei ffrog gan briodferch a oedd wedi talu £3,300 amdani’n wreiddiol.

Mae bellach ar werth am lai na £1,000 yn ei siop.

“Roeddwn i wrth fy modd bod rhywun arall wedi’i gwisgo, roeddwn i’n meddwl bod hynny’n gyffrous iawn,” meddai Bronwen.

“Yn amlwg nid yw’r ffrog wedi’i melltithio, rwy’n briod ac yn hapus fel y mae’r briodferch y prynais i’r ffrog ganddi,” ychwanegodd.


BBC News

Views: 3

See also  Etholiad Senedd Cymru: Cymharwch bolisïau'r pleidiau

Check Also

Has the fear of being filmed changed clubbing for Gen Z?

Student Freya Price will be on a night out with her friends, but she cannot …

Ci o Ben Llŷn wedi’i ganfod yn Lloegr ar ôl ‘tair wythnos o boeni’

Mae teulu o Ben Llŷn yn ddiolchgar i’r cyfryngau cymdeithasol am eu help yn dod …

Scotland U20 28-21 Wales U20: Scots claim fifth at Junior World Championship

Scotland U20: Rory McHaffie (Edinburgh); Daniel Kelly (Edinburgh), Henry Kesterton (Edinburgh), Alex Bryden (Glasgow), Nairn …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
This product has multiple variants.