google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Ci o Ben Llŷn wedi’i ganfod yn Lloegr ar ôl ‘tair wythnos o boeni’

Mae teulu o Ben Llŷn yn ddiolchgar i’r cyfryngau cymdeithasol am eu help yn dod o hyd i’w ci a gafodd ei ddarganfod 200 milltir i ffwrdd yng nghanolbarth Lloegr.

Aeth Turbo ar goll o Langwnnadl ddiwedd Mehefin ac mae ei berchennog Elen Williams wedi bod yn ffonio milfeddygfeydd ac yn gwneud apêl ar y cyfryngau cymdeithasol i geisio dod o hyd i’r ci defaid saith oed.

Ddydd Iau cafodd Elen alwad ffôn gan filfeddygfa yn Derby, yn dweud ei fod yn ddiogel yno ar ôl cael ei ganfod gan gwpl yn cerdded ar ochr lôn.

Does dim sicrwydd hyd yma sut gyrhaeddodd Turbo ganolbarth Lloegr.

Mae Elen yn credu y gallai rhywun fod wedi ei ddwyn, a bod y sylw ar y cyfryngau cymdeithasol o bosib wedi dychryn y bobl oedd yn gyfrifol, a’u bod felly wedi ei ryddhau.

“Dyma fo adra o’r diwedd!” meddai Elen.

“Mae hi wedi bod yn dair wythnos o boeni, ffonio a chwilio am Turbo.”


BBC News

Advertisements

See also  World Rally Championship: The five titles that got away as Elfyn Evans closes in on elusive crown

Check Also

WXV Global Series: Sean Lynn hails grit of 13-player Wales in Japan win

Wales head coach Sean Lynn has praised the grit shown by his side during their …

Gabrielle Creevy loved being Welsh assassin on Netflix’s Black Doves

Award-winning actress Gabrielle Creevy has told how she loved being able to play “a very …

Wales complete Japan double to end WXV on a high

Japan: Imakugi; Tsunokawa, Langford, Kataoka, Havili Kagawa; Harada, Tsukui; Komaki, Nagaoka, Kitano, Kawamura, Sato, Asari, …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime