google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cymuned pentref yn Sir Gâr yn ‘colli ei galon’ wrth i glwb gweithwyr gau

Un arall sy’n mynychu’r Workies, fel mae’n cael ei adnabod yn y pentref, yn rheolaidd yw Sophie Flear.

Dywedodd Sophie, 33, bod y clwb yn “hwb yn y gymuned” gyda phobl y pentref yn dibynnu arno ar gyfer cymdeithasu.

“Mae’r gymuned yn colli ei galon. Mae’r Workies yng nghanol unrhyw ddigwyddiad sy’n digwydd yn y pentre’,” meddai.

“Dwi di bod yn mynd i’r clwb ers o’n i’n blentyn. Mae o di bod yma am mor hir sai’n gwybod Y Tymbl heb y clwb.

“Roedd fy rhieni a fy nheulu’n mynd cyn i fi cael fy ngeni ac mae wastad ysbryd cymunedol wedi bod yna.

“Pan o’n i bant o Gymru ro’n i’n dod a fy ffrindiau o Bristol yn ôl i’r Workies ac roedd fy mrawd yn gwneud yr un peth.”

Ychwanegodd: “Fi’n gweithio fel nyrs iechyd meddwl a fi’n credu bydd mwy o social isolation yn digwydd gyda’r clwb yn cau.”

Wedi’i sefydlu yn 1893 i wasanaethu’r glowyr yn y pwll glo cyfagos, mae’r clwb “wastad wedi bod yng nghanol unrhyw ddigwyddiad sy’n digwydd yn y pentref”, meddai Sophie.

“Mae pawb yn y pentre’ yn gwybod hanes y clwb – gyda’r glowyr yn enwedig – a dwi’n ofni bydd yr hanes yna nawr yn cael ei golli.”

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Advertisements




BBC News

Views: 1

See also  Law allowing workers to keep all their tips comes into force

Check Also

Has the fear of being filmed changed clubbing for Gen Z?

Student Freya Price will be on a night out with her friends, but she cannot …

Ci o Ben Llŷn wedi’i ganfod yn Lloegr ar ôl ‘tair wythnos o boeni’

Mae teulu o Ben Llŷn yn ddiolchgar i’r cyfryngau cymdeithasol am eu help yn dod …

Scotland U20 28-21 Wales U20: Scots claim fifth at Junior World Championship

Scotland U20: Rory McHaffie (Edinburgh); Daniel Kelly (Edinburgh), Henry Kesterton (Edinburgh), Alex Bryden (Glasgow), Nairn …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Buy pain killer,buy percocet no prescription,buy co codamol.