google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Tuesday , September 15 2026

Aled Jones Williams: Ailddarganfod ffydd wedi cyfnod anodd

Advertisements

Dyw bywyd ddim wastad wedi bod yn hawdd i’r dramodydd a’r prifardd Aled Jones Williams o Gricieth – mae’n alcoholig, yn byw â chanser, a thra’n offeiriad yn yr Eglwys yng Nghymru fe gollodd ei ffydd.

Ond yn ddiweddar mae wedi ailddarganfod ei ffydd wedi iddo fod ar “ymylon anffyddiaeth ac yn arddel math o ffydd atheistaidd”.

Yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg bu Aled Jones Williams yn egluro ei fod wedi ailddarganfod ei ffydd wrth ddychwelyd i Eglwys Gwyndaf Sant, Llanwnda – eglwys ei blentyndod – gyda’i ŵyr bach.

Roedd wedi bod yn osgoi mynd i’r eglwys am flynyddoedd gan ei fod yn rhannol yn cofio am y cyfnod pan oedd iechyd ei dad, a oedd yn offeiriad yn yr eglwys, yn fregus.

“Roeddwn i ofn y byddai rhywbeth yn digwydd iddo ac roedd Mam ar bigau – petai rhywbeth yn digwydd iddo fydden ni heb gartra’.

“Roeddan ni’n byw dan gwmwl a dwi’n meddwl bo’ fi wedi cael f’ordeinio er mwyn bod yn agos i Dad. Roedd ‘na deimlad o gas a chariad at yr eglwys.”

Yn sgil yr ofn doedd Aled Jones Williams ddim wedi bwriadu mynd i’r eglwys yn Llanwnda, ond wrth fynd â’i ŵyr am dro yn betrus mi aeth mewn “a daeth rhywbeth at ei gilydd” gan fynd ag ef yn ôl i “wreiddiau cwbl angenrheidiol”.


BBC News

See also  Discovery Cove: Cardiff girl dies on family holiday in Florida

Check Also

Free diver spots jellyfish the ‘size of a bus’ near Pembrokeshire coastline

Morgan said he was swimming near Trefin Beach in Pembrokeshire when he spotted the tentacles …

Lluniau: Ironman Cymru 2026 – BBC Cymru Fyw

Daeth miloedd i Sir Benfro dros y penwythnos i wylio ras Ironman Cymru. Mae’r gystadleuaeth …

Codi pryderon am ‘wthio llwyfan digidol S4C Clic i’r ymylon’

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi codi pryderon am ddyfodol gwasanaeth digidol S4C Clic. Yn …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime