google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Araith dŵr coch clir Rhodri Morgan yn ‘nonsens ofnadwy’ ym marn Tony Blair

Roedd Morgan yn arwain clymblaid gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol ar y pryd.

Ar ôl i’r blaid Lafur ddioddef canlyniadau gwael yn etholiadau cyntaf y Cynulliad ym 1999, mae’r araith ‘dŵr coch clir’ wedi cael ei gweld gan rai fel rhan o strategaeth a enillodd yr etholiad nesaf i Lafur yn 2003.

Ysgrifennwyd y ddarlith gan brif ymgynghorydd Morgan ar y pryd, Mark Drakeford, a aeth ymlaen i fod yn Brif Weinidog yn 2018.

Dywedodd Drakeford, sydd bellach yn Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru: “Byddai Rhodri yn esbonio beth oedd yn digwydd, beth oedd yn ei feddwl, beth roedd am ei wneud ac ateb Blair yn ei hanfod fyddai: ‘Ni fyddwn yn ei wneud felly, ond ti yw prif weinidog Cymru’.

“Wnaethon nhw ddim trafferthu gormod gyda beth o’n ni’n ‘neud yng Nghymru, cyn belled â’i fod yn aros yng Nghymru.”

Dywedodd Drakeford y byddai’r ddau brif weinidog yn cyfarfod yn ffurfiol ddwywaith y flwyddyn, ond doedd e ddim yn cofio’r araith byth yn cael ei chrybwyll.

Mewn cyfweliad gyda’r BBC yn 2017, dywedodd Syr Tony fod Morgan “o adain fwy traddodiadol y blaid” ond roedd ganddo “barch mawr at Rhodri”, er iddyn nhw anghytuno.


Source link

Views: 0

See also  Josh Tarling: Welsh rider signs three-year Ineos Grenadiers deal

Check Also

North Wales Police officer developed PTSD over handling of affair complaint, court told

A consultant psychiatrist has told a court that a former North Wales Police officer developed …

St Mellons crash: Man charged with fraud relating to car MOT

A 47-year-old man has been charged with fraud relating to the car involved in a …

Police investigate death threat against Reform’s Cai Parry-Jones

Gwent Police said the incident involving Asghar on Wednesday night is not viewed as politically …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
This product has multiple variants.