google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

18 achos o haint E. coli wedi eu cofnodi yng Nghymru

Mae 18 achos o haint E. coli wedi cael eu cofnodi yng Nghymru ers 25 Mai, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae 113 o achosion wedi eu cofnodi ar hyd y Deyrnas Unedig gydag Asiantaeth Iechyd y DU yn dweud bod yna gysylltiad rhwng y mwyafrif o’r achosion hynny.

Y gred yw bod y lledaeniad yn ymwneud â math penodol o fwyd sy’n cael ei ddosbarthu yn genedlaethol.

Grŵp o facteria yw E. coli sydd yn byw yn y coluddyn heb achosi niwed fel arfer, ond mae rhai mathau, fel STEC, yn gallu achosi salwch difrifol.

Mae heintiau STEC yn aml yn achosi dolur rhydd difrifol, gyda gwaed ynddo o bryd i’w gilydd, poen yn y bol a thwymyn.

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae naw o bobl wedi derbyn triniaeth ysbyty ar ôl cael eu heintio.


Source link

Views: 0

See also  Carmarthenshire woman spiked on night out says spiking can happen anywhere

Check Also

Ymgeisydd Reform a gamodd yn ôl dros lun saliwt i gynghori’r arweinydd

Ar ôl i’r llun ddod i’r amlwg yn ystod ymgyrch yr etholiad, dywedodd Reform eu …

Beach-goers enjoy record May heat in New Quay, Wales

A seaside town was packed with visitors over the bank holiday weekend as people made …

Heledd Wynn Newton yw prif gyfansoddwr Eisteddfod yr Urdd

Heledd Wynn Newton o Gaerdydd sydd wedi ennill medal prif gyfansoddwr Eisteddfod yr Urdd Ynys …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Lexonads | free ad network | automated website traffic.