google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Yr iaith Gernyweg ‘ar drothwy llwyddiant o’r diwedd’ – prifardd

Advertisements

Mae’r Swyddog Cyswllt Ysgolion, Nia Robertson, gafodd ei magu ym Mangor ond sydd bellach wedi byw yng Nghernyw ers 11 mlynedd ac yn siarad yr iaith yn “gobeithio bydd y lefel tri ‘ma’n gallu rhoi llun mwy clir i ysgolion”.

Yn rhan o’i gwaith gyda mudiad Go Cornish mae’n mynd i ysgolion ar draws Cernyw.

“Be’ dwi’n glywed drwy’r amser ydy – ma’r brwdfrydedd yma i gyflwyno’r iaith” a thrafod hanes yr iath ond bod “gofynion y cwricwlwm cenedlaethol yn stopio’r ysgolion rhag medru gneud hynna”.

Dywedodd bod y Gernyweg wedi tyfu ymhob ffordd erbyn hyn.

“Ma’ gen ti fusnesa’ bach yn cychwyn sy’n defnyddio enwa’ Cernyweg ar eu busnesa’ nhw, ti’n ei weld o’n fwy ac ar fwy o arwyddion stryd hefyd.

“Ma ‘na buzz o gwmpas yn sicr.”

Wrth fyfyrio ar ei hamser yng Nghymru, dywedodd “o’n in berson ifanc yn tyfu fyny yn y 70au ac 80au ac oedd hwna’n gyfnod cyffrous iawn yng Nghymru” ac roedd angen “mudiadau fel mudiad ysgolion meithrin, yr Urdd a wedyn y sîn bop nath ffrwydro yn y 90au”.

“Dwi’n meddwl ma’ cael pobl ifanc on board mor, mor bwysig” ac mae’n gobeithio bydd mwy o gefnogaeth a chydnabyddiaeth yn gwneud hynny.

Fe ddywedodd Llywodraeth y DU bod “adfywiad yr iaith Gernyweg yn ystod y degawdau diwethaf” yn cryfhau balchder yr ardal.


BBC News

Views: 1

See also  'Bai annheg' ar bobl ifanc am ymddygiad gwrthgymdeithasol

Check Also

Lluniau: Gŵyl Tawe 2026 – BBC Cymru Fyw

Mae penwythnos arall o gerddoriaeth a chelfyddydau bywiog wedi dod i ben yn Abertawe, wrth …

Menywod bregus yn cael eu denu at roddwyr sberm anghyfreithlon

Mae rhoddwyr sydd heb eu rheoleiddio yn cynnig gwasanaethu mewn ffyrdd gwahanol, gyda rhai yn …

‘O’r diwedd mae rhywun yn ymchwilio i effaith ergydion i’r pen ar ferched’

Yn ôl arweinydd y prosiect, Dr Peter Theobald, dyma’r tro cyntaf i ymchwil o’r fath …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Link. You have been rate limited for making too many requests in a short time frame. artificial intelligence hedge fund.