google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Menywod bregus yn cael eu denu at roddwyr sberm anghyfreithlon

Mae rhoddwyr sydd heb eu rheoleiddio yn cynnig gwasanaethu mewn ffyrdd gwahanol, gyda rhai yn cynnig cael rhyw am ddim, tra bod eraill yn hedfan i wledydd ar draws y byd ar er mwyn defnyddio dulliau ffrwythloni artiffisial.

Mae Daniel Bayen, 25, yn byw yn yr Unol Daleithiau ond fe deithiodd i’r DU yn 2025 i gyfrannu sberm drwy ddefnyddio dull ffrwythloni artiffisial.

Mae’n dweud fod pedwar babi wedi cael ei eni yn dilyn y daith honno.

Fe dreuliodd y BBC dridiau yn ffilmio gyda Dan, sy’n honni mai ef yw’r “rhoddwr sy’n cael ei dalu fwyaf”, ond nad yw’n gweithio er mwyn gwneud elw.

“Mae pobl sydd wedi defnyddio fy samplau yn fy helpu i dalu am gostau iechyd a byw, yn ogystal â chostau teithio,” dywedodd.

Dywedodd ei fod ond wedi gofyn i bobl yn y DU am gostau teithio, ond fod pobl mewn gwledydd eraill wedi cynnig hyd at $20,000 iddo am sampl.

“Does dim ots gen i beth mae pobl eraill yn ei feddwl. Rwy’n meddwl am yr hyn sydd orau i’r plant a’r teuluoedd rwy’n gweithio gyda nhw,” meddai.

Mae Dan yn cyfeirio at ei hun fel rhoddwr agored ac yn hapus i’r plant wybod pwy yw eu tad.

Mae hefyd yn rhannu fideos am ei ffordd o fyw a chanlyniadau iechyd.

Mae’n mynnu nad oedd wedi torri’r gyfraith tra’r oedd yn rhoddwr yn y DU.


BBC News

Advertisements

See also  Cardiff man dies in hospital after attack, police say

Check Also

Yousef Salech hails Jack Moylan partnership for Cardiff City

The build-up to Saturday’s encounter was filled with emotion, with boss Brian Barry-Murphy highlighting the …

Tai hanesyddol 400 oed i’w troi’n gartrefi fforddiadwy i bobl ifanc

Mae’r adeiladau, sydd hefyd yn cael eu hadnabod fel Tai Lewis Rogers, yn adeiladau rhestredig …

Grange Hospital deemed ‘dangerous’ online but staff call it safest in Wales

One of those extra spaces is located behind some cubicles at the back of the …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime