google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Yr Eglwys yng Nghymru i bleidleisio ar fendithio priodas un rhyw yn barhaol

Advertisements

Bydd corff llywodraethol Yr Eglwys yng Nghymru yn pleidleisio ddydd Mercher ar a ddylid bendithio priodasau a phartneriaethau sifil o’r un rhyw yn barhaol.

Ym mis Medi 2021 mewn pleidlais hanesyddol, fe wnaeth corff llywodraethol Yr Eglwys yng Nghymru gefnogi caniatáu bendithio priodas neu bartneriaeth sifil cyplau un rhyw mewn gwasanaeth eglwysig, ond am gyfnod arbrofol.

Ar y pryd dywedodd y sefydliad bod y penderfyniad “yn gam tuag at edifeirwch yn sgil hanes o fewn yr Eglwys sydd wedi cythreulio ac erlid pobl hoyw a lesbiaidd”.

Mae’r cyfnod arbrofol o bum mlynedd yn dod i ben ddiwedd 2026.

Os bydd y corff llywodraethol yn pleidleisio o blaid gwneud y trefniant yn un parhaol, bydd angen ymgorffori gwasanaeth bendithio awdurdodedig ar gyfer priodasau a phartneriaethau sifil o’r un rhyw yn y Llyfr Gweddi Gyffredin.

Mae’r corff llywodraethol yn cynnwys 143 o aelodau sydd wedi eu rhannu yn dair urdd – esgobion, clerigwyr ac aelodau lleyg.

Er mwyn i’r trefniant presennol fod yn un parhaol rhaid i ddwy ran o dair (66%) pob un o’r tair urdd fod o blaid.


BBC News

Views: 4

See also  Leigh Halfpenny: Former Wales full-back signs for Cardiff

Check Also

Plan to expand free childcare in Wales faces serious challenges, figures show

Councils are struggling to deliver the previous government’s more limited offer on childcare. BBC News …

Carys Garnon James: Mae’r Gymraeg yn rhan ohonof i

“Ges i dipyn o sioc – do’n i ddim yn disgwyl hyn o gwbl, ond …

Ymlusgiaid sy’n gohirio adeiladu ysgol Gymraeg yn cael eu symud

Amcangyfrifwyd yn wreiddiol y byddai symud yr ysgol i safle mwy yn costio tua £18.6m, …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
In the case, you are on this page occassionally, here is some info about the vastoftools website :. Wurden die personenbezogenen daten öffentlich gemacht und ist unser unternehmen als verantwortlicher gemäß art. The residences at coconut point.