google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html smokeless fireworks,what are f4 fireworks,fireless fireworks,what are f1 fireworks,what are f2 fireworks www.yaoanjituan.com what are f3 fireworks,low noise fireworks,f4 fireworks,cold sparkler wholesale,fireworks for weddings wholesale

Yr Athro a’r awdur, Hazel Walford Davies, wedi marw yn 85 oed

Cyhoeddodd nifer o lyfrau ar fyd y theatr yng Nghymru, gan gynnwys Saunders Lewis a Theatr Garthewin (1995).

Cyhoeddodd hefyd gyfrolau yn ymwneud â bywyd a gwaith Syr O M Edwards ac fe enillodd O M: Cofiant Syr Owen Morgan Edwards wobr categori ffeithiol Llyfr y Flwyddyn yn 2021.

Hwn yw’r cofiant llawn cyntaf i O M Edwards, a rhoir sylw manwl yn y gyfrol i’w yrfa ddisglair a’i “fenter fawr i drawsnewid diwylliant, llenyddiaeth ac addysg Cymru”, ac mae sylw hefyd i’w fywyd preifat.

Fe’i cyhoeddwyd ar ganmlwyddiant marwolaeth Syr O M Edwards yn 2020

Yn ôl Jason Walford Davies, “hwn oedd ei magnum opus fel petai… hwn oedd hi wedi bod yn gweithio arno fe ar draws ei gyrfa.

“Fe wnaeth hi ei gyhoeddi pan roedd hi’n saff o fewn ei 80au felly roedd hwn yn gyflawniad mawr iddi.”

Ychwanegodd: “Roedd hi’n berson amlochrog eithriadol, a’r hyn fydda’ i’n cofio fydd fy nhad yn dweud ‘allwn ni ddim bod yn drist achos roedd hi mor, mor llawen’.”

Bu farw Hazel Walford Davies ar 21 Tachwedd, ac mae’n gadael ei gŵr, Walford a’i dau fab, Jason a Damian.


BBC News

Views: 0

See also  Anrhydeddu'r rhai sydd wedi rhoi oes o wasanaeth i'r Ysgol Sul

Check Also

Beth mae pobl gyffredin eisiau gweld yn y gyllideb?

Mae Gwyn Evans, 79, wedi byw yng Nghlydach am dros 40 mlynedd, ac yn ei …

Bron i 3,000 o rywogaethau mewn perygl yng Nghymru – adroddiad

Dywedodd Mary Lewis, pennaeth polisi rheoli adnoddau naturiol CNC: “Mae’r adroddiad hwn yn ei gwneud …

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Available for Amazon Prime
How the hypowallet saved me on a long coach journey : essential emergency glucose for diabetes travel. Free shipping within usa on all orders inr 12000+. Ai resources shubham nayak.