google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Anrhydeddu’r rhai sydd wedi rhoi oes o wasanaeth i’r Ysgol Sul

Advertisements

Mae ei chymdoges Jên Ebenezer hefyd yn parhau i fod yn athrawes Ysgol Sul ym Mhontrhydfendigaid, a chyn dychwelyd i’w phentref genedigol – roedd hi’n athrawes yn Ysgol Sul, Capel y Morfa yn Aberystwyth.

Ar hyd ei hoes, fel i Neli, mae’r Ysgol Sul wedi bod yn bwysig iddi.

Aelodau o gapel y Bedyddwyr ym Mhontrhydfendigaid oedd teulu Jên ond gan nad oedd Ysgol Sul yn y capel hwnnw pan oedd hi’n blentyn cafodd hi a’i chwaer ganiatâd i fynd at y Methodistiaid.

“Wel o’dd rhaid cael mynd i’r Ysgol Sul – o’dd fy ffrindiau yn yr ysgol yn siarad am yr Ysgol Sul o hyd.

“O’n i wrth fy modd yn cael rhoi emyn ma’s – o’dd dim nyrfs yn perthyn i fi.

“Fi wastad wedi joio mynd i’r Ysgol Sul – er cofiwch fel athrawes fi mor ddrygionus â’r plant!

“Cofio’n iawn pan o’n i’n ifanc am y Parchedig William Davies yn dod â straeon y Beibl yn fyw i ni ac wrth gwrs am y trips Ysgol Sul i’r Rhyl, Porthcawl ac Ynys y Barri a chael hanner coron i wario am bod ni’n blant da yn mynd i’r Ysgol Sul!”

“Finne hefyd yn cofio am y dyddiau da hynny ac am Dic Rees y siop yn dysgu ni ganu yn yr Ysgol Sul ar gyfer y Gymanfa Ganu,” meddai Neli.

“O’n ni’n arbennig – roedd plant Bont yn well na phlant Tregaron!

“Mae lot o straeon ar hyd y blynydde. Fi’n cofio gofyn i’r plant ddod â llun o anifail fyddai’n debygol o fod yn arch Noa – a doth un plentyn â pysgodyn aur byw mewn bowlen – ni wedi cael sbort,” ychwanegodd Jên.

Ond yr hyn sy’n bwysig, meddai’r ddwy, yw bod yr Ysgol Sul yn parhau ac mae’n gyfle i ddod i adnabod y plant a’u teuluoedd wrth iddyn symud i fyw i’r ardal.


BBC News

Views: 0

See also  Macclesfield fans invade the pitch after beating Palace

Check Also

Y Gymraes gyntaf i sicrhau dwy drwydded A Uefa yn gobeithio ysbrydoli

Mae cael un drwydded A Uefa yn dipyn o gamp, ond os oes modd cael …

Ateb y Galw: Kayley Roberts

Bardd Mis Mehefin Radio Cymru sy’n ateb cwestiynau busneslyd Cymru Fyw. BBC News Views: 1 …

Uefa Men’s Under-19 Championships: Coach Chris Gunter urges Wales to get over Spain hurt quickly

A devastating opening 34 minutes saw Spain take a 4-0 lead, including two goals from …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Logi transports : your best choice for power only trucking. heavy equipment transport pima az. heavy equipment transport orange county fl.