google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Bron i 3,000 o rywogaethau mewn perygl yng Nghymru – adroddiad

Advertisements

Dywedodd Mary Lewis, pennaeth polisi rheoli adnoddau naturiol CNC: “Mae’r adroddiad hwn yn ei gwneud hi’n glir nad ydym yn unig ‘mewn perygl’ o weld rhywogaethau yn diflannu yng Nghymru, mae eisoes yn digwydd.

“Fel gwlad, mae angen i ni gymryd y bygythiad o ddifrif.”

Mae’r adroddiad yn awgrymu fod modd amddiffyn llawer o’r rhywogaethau sydd mewn perygl yn well drwy gamau cost-effeithiol.

Ychwanegodd Ms Lewis: “Mae’n galonogol bod modd gwneud llawer i amddiffyn y rhywogaethau hyn trwy fuddsoddi cymedrol a gwneud newidiadau cymharol fach i’r ffordd yr ydym yn rheoli ein tirweddau.

“Mae’r newidiadau yma’n aml yn ymwneud ag addasu pan fydd llystyfiant yn cael ei dorri, rheoli twf llystyfiant diangen, neu wneud yn siŵr bod y patrymau pori cywir yn eu lle.

“Mae’r adroddiad Rhywogaethau mewn Perygl yn rhoi’r fframwaith i ni wneud y newidiadau hynny.”

Gobaith CNC ydy y gallai’r dull newydd yn yr adroddiad fod yn dempled i genhedloedd ledled y byd.


BBC News

Views: 0

See also  Vitor Matos compares Liam Cullen to Bastoni and says history should not drag Swansea down

Check Also

Gwrthod cynnig i ymestyn glofa Glan Lash yn Sir Gaerfyrddin

Dywedodd Jenny Lloyd o Gyfeillion y Ddaear Cymru bod penderfyniad y cyngor yn “newyddion gwych”. …

Snapping turtle with sharp bite found near Swansea

“They’re not going to attack, but if you pick one up it will defend itself …

UK's last outstanding coal mine plan rejected

Plans to dig for 85,000 tonnes of coal at Glan Lash mine near Llandybie have …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Search for fitness models. Chaveiro 24 horas na vila ema.