google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Yn ôl i Midffîld: Y cast yn hel atgofion am y gyfres eiconig

Advertisements

Dywedodd Llion Jones, a oedd yn chwarae rhan George Hughes, fod y gyfres wedi datblygu tipyn ers y dyddiau radio erbyn iddi gyrraedd y teledu.

“Be’ oedd yn wych oedd ein bod wedi cael cyfle i ‘neud o ar y radio i ddechrau a be’ oedd yn anhygoel oedd bod pobl wedi dechrau gwrando arno, ac roedd ‘na dimau pêl-droed oedd yn mynd i gemau ar bnawn dydd Sadwrn ar y bws yn ei roi o ‘mlaen.

“Roedd rhywun yn gwybod, erbyn pan oedden ni ar y teledu wedyn, fod ‘na gyfrifoldeb mawr i drio ‘neud llwyddiant ohono fo.”

Mae Sian Wheldon, oedd yn actio’r cymeriad Sandra, yn cofio recordio’r gyfres radio.

“Dwi’n cofio recordio yn stiwdios Bryn Meirion ym Mangor ar ddydd Sadyrnau a’r Sul.

“Elwyn Jones, y diweddar erbyn hyn, oedd enw’r cynhyrchydd.

“Roedd y rhan fwyaf o’r golygfeydd yn cael eu recordio yn y stiwdio, ond efo rhai eraill, yn enwedig y rhai ar y cae, er mwyn creu awyrgylch realistig, roedden ni yn cael ein pacio i lawr i gae tîm pêl-droed dinas Bangor, yr enwog, Farrar Road,” cofiai.


BBC News

See also  Athro yn cael ei wahardd o ysgol yng Ngwynedd

Check Also

World Rowing Championships: Ben Pritchard retains PR1 sculls world title in Amsterdam

Welsh Para-rower Ben Pritchard retained his PR1 men’s single sculls world title at the Rowing …

“Braw” Mam o Gaerfyrddin o ddarganfod diabetes Math 1 ei merch

Er ei bod yn ferch ffit ac heini sy’n mwynhau chwaraeon, dechreuodd Olwen sylwi ar …

Wrexham news: Red Dragons seek ‘horrible’ streak amid defensive issues

But it has been far more settled this term, with Zak Vyner, Hyam and Callum …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime