google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Ymgeisydd Reform yn camu’n ôl wedi llun saliwt Natsïaidd

Advertisements

Ond ddydd Gwener, dywedodd llefarydd i’r blaid bod Mr Edwards wedi rhoi gwybod iddyn nhw ei fod yn camu i lawr, “gan nodi problemau gyda’i iechyd meddwl”.

“Rydym yn dymuno’n dda iddo ar gyfer y dyfodol ac yn gobeithio y gall ei breifatrwydd gael ei barchu yn ystod yr amser anodd hwn,” meddai Reform UK.

Yn ôl Reform, cafodd y llun ei dynnu yn 2019. Nid yw’n glir ble y cafodd ei dynnu ac mi gafodd ei gyhoeddi yn wreiddiol gan Nation.Cymru ddydd Iau.

Dywedodd Mr Edwards cyn camu i lawr fod y llun yn “edrych yn wael a gellid ei gamddehongli”, ac mai dynwared y pêl-droediwr Wayne Hennessey oedd yn ei wneud.

Cafwyd Hennessey yn ddieuog yn 2019 o wneud y saliwt sarhaus mewn digwyddiad wrth i Crystal Palace ddathlu buddugoliaeth.

Roedd Mr Edwards yn gynghorydd arbennig i gyn-Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies, rhwng Tachwedd 2022 a Hydref 2023.


BBC News

See also  Ioan Hepburn follows in Sir Jason Kenny's footsteps with two golds

Check Also

Hayden Mullins: Newport County boss aims to build on impressive home starts

Having seen his side lose to an 87th minute goal at Northampton in their most …

Mam wedi marw o ganser ar ôl aros naw mis am ganlyniadau profion

Rhoddodd Ben Daniels, gŵr Sarah, dystiolaeth ysgrifenedig gan ddweud bod Sarah, pan y cafodd hi …

‘Rhaid dangos bod modd ffermio er lles natur a chael busnes proffidiol’

Dywedodd pennaeth ymgysylltu â natur a datblygu yn Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn, Carla Evans, …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime