Mae ymgeisydd y Ceidwadwyr ar gyfer sedd Pen-y-bont wedi tynnu allan o’r etholiad cyffredinol oherwydd sylwadau “hollol amhriodol” yr oedd wedi’u gwneud ar-lein.
Adroddodd y Mirror fod Sam Trask wedi cyhoeddi negeseuon rhywiol am fenywod i wefan myfitnesspal.
Ymddiheurodd Mr Trask am y sylwadau a gafodd eu gwneud nifer o flynyddoedd yn ôl meddai.
Dywedodd yr ymgeisydd Llafur ar gyfer y sedd, Chris Elmore: “Mae’r datgeliadau erchyll hyn yn codi cwestiynau difrifol am safon yr ymgeiswyr y mae’r Torïaid wedi’u gorfodi i’w dewis.”
Mae’r Ceidwadwyr yn amddiffyn y sedd a enillwyd ganddynt yn yr etholiad cyffredinol yn 2019.
Roedd Mr Trask yn ymgeisydd am nad oedd AS blaenorol y blaid, Jamie Wallis, wedi sefyll eto ar gyfer yr etholaeth.
Dyw hi ddim yn glir pwy fydd yn sefyll dros y blaid yn y sedd, sydd wedi newid ffiniau ar gyfer yr etholiad.
Mae’r enwebiadau’n cau am 17:00 ddydd Gwener.
Dywedodd Mr Trask: “Cafodd y sylwadau hyn eu gwneud nifer o flynyddoedd yn ôl, ac rwy’n cydnabod eu bod yn hollol amhriodol.
“Am hynny rwy’n ymddiheuro ac rwyf wedi penderfynu tynnu’n ôl fel ymgeisydd.”
Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig nad yw’r blaid yn “cefnogi’r sylwadau”, a’u bod yn “ymchwilio i’r mater”.
Source link
Best Electronic Deals.
Discover the Best Electronic Deals on Amazon Today. Grab Hot Discounts on Top Tech! Don't Miss Out! 🔥 Save Big Now!