google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Ydy hi’n amser newid sut rydyn ni’n trafod tywydd poeth?

‘Di o erioed ‘di fy nharo i mewn gwirionedd pa mor bositif ‘di’r eirfa wrth i ni drafod neu gyflwyno’r haul.

Ar lefel syml, ‘di’r haul ddim hyd yn oed at ddant bawb – yn enwedig pan fydd hi’n dod at lefelau paill ac ati sy’n broblem arall yn ei hun.

Mae’r holl beth yn mynd o dan y radar pan fydden ni’n cyflwyno’r tywydd ond mewn gwirionedd, ella bod angen ystyried hyn fel rhan fwy o’r sgwrs.

‘Dyn ni’n byw mewn cyfnod newydd lle mae’r tymhorau bron yn blurred – yn gweddu i mewn i’w gilydd, lle nid oes gennym ni bedwar tymor diffiniedig fel yr oedd gennym ni o’r blaen.

Mae’r gaeafau’n gynhesach, a’r hafau’n wlypach, a’n swydd ni yw cyfleu’r neges, ac nid y ‘pam’.

Mae’n bryder i mi, fodd bynnag, y bydd yr ieithwedd ond yn newid pan y bydd hi’n llawer rhy hwyr.

‘Dyn ni ond yn dechrau profi rhai o sgil-effeithiau’r newid yn ein hinsawdd, a ddim wir yn eu profi i’w llawn maint felly mae’n anoddach i rai gydnabod yr ochr negyddol.


BBC News

Advertisements

See also  National Milk Bars: hanes Willie Griffiths a'r tsiaen adnabyddus

Check Also

Hawk fighter jets to resume flying at RAF Valley after crash

“The decision has been taken at the highest level, after extensive scrutiny, that the necessary …

Bangor mum fears baby will be scarred for life after hot gravy spill at pub

She then wrapped Neli’s hand and leg in a muslin cloth and took her to …

Mam yn poeni y bydd gan ei babi greithiau am oes wedi damwain ‘erchyll’

Ers y digwyddiad mae Ms Griffiths wedi bod yn mynd â Neli yn ôl i’r …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime