google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Ymddiried yn awdur The Salt Path oedd ‘camgymeriad mwyaf’ teulu

9e352d60 633f 11f0 af20 030418be2ca5.jpg

Advertisements

Mewn datganiad a gafodd ei gyhoeddi fis Gorffennaf ar ôl erthygl yr Observer, a oedd yn cynnwys honiadau gan Ms Hemmings, cyfaddefodd Ms Walker ei bod wedi gwneud “camgymeriadau” yn gynharach yn ei gyrfa.

Dywedodd ei bod wedi dan bwysau, ac er iddi gael ei holi gan yr heddlu, ni chafodd ei chyhuddo.

“Unrhyw gamgymeriadau a wnes i yn ystod y blynyddoedd yn y swyddfa honno, rwy’n difaru’n fawr, ac mae’n ddrwg iawn gen i,” meddai.

Dywedodd Ms Winn fod yr achos wedi’i setlo rhyngddi hi a’i chyn-gyflogwr ar “sail dim-cyfaddefiadau”, oherwydd “nad oedd ganddi’r dystiolaeth angenrheidiol i gefnogi’r hyn a ddigwyddodd”.

Dywedodd: “Roedd Mr Hemmings yr un mor awyddus i gyrraedd datrysiad preifat ag yr oeddwn i.”

Fe roddodd BBC Cymru ymatebion Ms Walker i Debbie Adams.

Ymatebodd: “Ia, mae pawb yn gwneud camgymeriadau dydyn – rhoi ffeil yn lle wrong neu anghofio talu siec neu rywbeth… ond camgymeriadau o £64,000, mae hynna’n glamp o swm yndi.

“Dwi’n meddwl yr unig gamgymeriad ‘naethon ni ydy cael hi fewn i’r swyddfa i wneud y gwaith.”

Mae The Salt Path wedi gwerthu dros ddwy filiwn o gopïau ers ei gyhoeddi, ac mae’r awdur wedi ysgrifennu dau ddilyniant, The Wild Silence a Landlines.


BBC News

Views: 2

See also  Torri record tymheredd ar gyfer dechrau mis Mai yng Nghymru

Check Also

Commonwealth Games 2026: Olivia Breen named Team Wales captain

Double Commonwealth Games gold medallist Olivia Breen has been named captain of Team Wales for …

Flintshire council to vote for ‘Pigs Village’ Welsh name change

But the chairman of Northop Hall community council, John Gollege, said some had asked him …

Caio Ifans: Ex-Wales rugby star Garan Evans’ son signs Swansea City contract

His dad played full-back for the Wales rugby team, but Caio Ifans opted for the …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime