google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Torri record tymheredd ar gyfer dechrau mis Mai yng Nghymru

89430440 2721 11f0 945c dd216cc688a1.jpg

Advertisements

Mae’r record ar gyfer y dechrau poethaf i fis Mai yng Nghymru wedi ei dorri, gyda disgwyl i’r tywydd braf barhau dros benwythnos Gŵyl y Banc.

Parc Biwt yng Nghaerdydd oedd y man poethaf yng Nghymru ddydd Iau, lle cafodd tymheredd o 27.6C ei gofnodi, tra bod 23.8C wedi ei gofnodi yn Aberystwyth.

Y record flaenorol ar gyfer 1 Mai oedd 26.9C ym Mhen-y-Ffridd, Conwy ym 1990.

Mae Dŵr Cymru wedi annog cwsmeriaid i ystyried eu defnydd o ddŵr gan fod lefel y glaw ar hyn o bryd tua 30% yn llai o’i gymharu â chyfnod yn 2022 pan wynebodd rhai ardaloedd waharddiad ar y defnydd o bibellau dŵr.

Trawsgoed yng Ngheredigion oedd y man poethaf ym Mhrydain ddydd Mawrth, gyda thymheredd o 24.9C (76.8F) yn cael ei gofnodi yno.

Mae disgwyl i dymereddau ostwng yn raddol dros y penwythnos i rhwng 12-17C ddydd Llun, sy’n debycach i’r hyn sydd i’w ddisgwyl ar gyfer yr adeg hon o’r flwyddyn.


BBC News

Views: 0

See also  Gofal di-dâl: 'Dwi'n ofalwr nid gwraig - alla i ddim cario mlaen'

Check Also

Betsi Cadwaladr University Health Board spent £4.2m on research of ‘unclear’ benefit to patients

The co-director of CfMHaS from 2012, Prof Rob Poole, was also honorary clinical psychiatrist at …

Dyn wedi goroesi ar y môr ger Porthmadog ar ôl 4 awr yn arnofio ar focs

Fe wnaeth dyn oroesi ar y môr ger Porthmadog am tua phedair awr yn arnofio …

Anneira yn annog eraill i ddefnyddio’r Gymraeg… yn 97 oed!

Blwyddyn merch hynaf Anneira, Sian, oedd y flwyddyn gyntaf i fynychu i Ysgol Llanhari pan …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
kawaii coffee stickers tiffany reed crafts.