google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Ymddeoliad Archesgob: ‘Trist colli un mor gefnogol i’r Gymraeg’

741f50b0 54f7 11f0 a063 0547e47ae66c.jpg

Advertisements

Ddeuddydd wedi i Archesgob Cymru gyhoeddi ei ymddeoliad dywed un a fu’n gweithio’n agos gydag Andy John bod ei “ymadawiad yn dristwch gan ei fod wedi bod mor gefnogol i’r Gymraeg oddi fewn yr Eglwys”.

Mae Dr Siôn Aled Owen yn diwtor yn Athrofa Padarn Sant, canolfan sy’n hyfforddi offeiriadon ac mae wedi cydweithio’n agos â’r Archesgob yn Esgobaeth Bangor.

Wrth siarad ar raglen Bwrw Golwg ddydd Sul dywedodd Dr Owen ei fod yn cydnabod nad oedd modd i’r Archesgob osgoi derbyn cyfrifoldeb am yr hyn sydd wedi digwydd ond bod “cymryd cyfrifoldeb am bethau doedd e ddim yn uniongyrchol gyfrifol amdano ddim yn teimlo’n gwbl gyfiawn”.

Fe ddaw ymddeoliad yr Archesgob Andy John ôl i ddau adroddiad beirniadol amlinellu pryderon am Gadeirlan Bangor.

Roedd yr adroddiadau’n cynnwys cwynion am “ddiwylliant lle’r oedd ffiniau rhywiol yn ymddangos yn aneglur”, yfed alcohol yn ormodol a gwendidau o ran llywodraethiant a diogelu.

Doedd yna ddim awgrym bod Mr John wedi camweithredu ac ef a gomisiynodd y ddau adroddiad.

Yn sgil yr adroddiadau fe gafodd grŵp gweithredu a bwrdd goruchwylio eu creu gan yr Eglwys yng Nghymru i fynd i’r afael â’r materion.


BBC News

Views: 0

See also  Runaway reindeer who fled Formby attraction has security beefed up

Check Also

‘Braf cael chwalu’r stereoteip am bobl hoyw a siarad Cymraeg’

Yn mis Mawrth fe wnaeth y BBC gadarnhau na fydd I Kissed a Girl yn …

Gwahoddiad i gydweithio ‘yn parhau’, er i Lafur wrthod cyllideb atodol

Mewn cyfweliad ar BBC Radio Wales Breakfast cyn y cadarnhad mai ef yw arweinydd parhaol …

Cwmbran pub landlord must tear down decking and play area

A pub landlord must tear down decking and a children’s play area after planners refused …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Bundle 10mg : elfbar elfa refillable pod + 2x elfliq liquid 10 mg/ml nikotin. Revised date sheet announced for class 8th in j&k. Where to buy elfbar elfliq.