google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Braf cael chwalu’r stereoteip am bobl hoyw a siarad Cymraeg’

Yn mis Mawrth fe wnaeth y BBC gadarnhau na fydd I Kissed a Girl yn dychwelyd ar ôl yr ail gyfres.

Dywedodd y gorfforaeth ei bod yn “eithriadol o falch” o’r rhaglen, ond bod yn rhaid gwneud “penderfyniadau anodd” oherwydd pwysau ariannol.

Mae Elisha’n gobeithio nad dyma ddiwedd rhaglenni o’r fath.

“Dwi’n credu ein bod ni’n haeddu cael rhaglenni fel hyn ar y teledu. Pan dwi’n edrych ar y negeseuon dwi wedi’u cael, mae’n fy atgoffa bob dydd pa mor bwysig oedd y rhaglen yma i bobl.

“Mae llawer o’r negeseuon wedi dod gan ferched sy’n dweud, ‘Dyma’r gynrychiolaeth femme rydyn ni ei hangen.’ Mae hynny’n golygu cymaint achos mae’n dangos i bobl eu bod nhw’n gallu bod yn nhw eu hunain.

“Mae’r ymateb mae’r sioe wedi’i gael yn dangos pa mor bwysig yw hi i bobl, felly dwi’n gobeithio y bydd rhywun arall yn ei chodi hi yn y dyfodol.

“Mae’n drist iawn dweud hwyl fawr iddi, ond dwi wedi mwynhau pob eiliad o’r profiad. Dwi’n teimlo’n lwcus iawn.”

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.




BBC News

Advertisements

See also  Murder charge mum accused of trying to kill her dad

Check Also

Team GB’s Dimitri Coutya claims gold hat-trick at Para-fencing Euros

Team GB’s Dimitri Coutya completed a stunning hat-trick of gold medals at the 2026 Para-fencing …

Wrexham dog owners fear contaminated land contributed death

A couple say their dog may have died after being exposed to an orange substance …

Jonathan Ross’ daughter Honey is learning Welsh by practising on dog

A Welsh content creator has shared how his girlfriend Honey Ross, daughter of TV presenter …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime