google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , September 23 2026

Ymchwiliad i ffaeleddau data Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr

Y methiant hwn yw’r diweddaraf mewn rhestr hir o broblemau yn y bwrdd iechyd sy’n gyfrifol am wasanaethau iechyd i boblogaeth o tua 700,000 o bobl ar draws y gogledd.

Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaldr sydd â’r perffromiad gwaethaf o holl fyrddau iechyd Cymru o ran y cleifion sy’n aros y cyfnodau hiraf am eu triniaeth.

Ym mis Awst roedd mwy na 5,400 o gleifion yn y gogledd wedi aros dwy flynedd neu ragor am eu triniaeth – 63% o’r cyfanswm dros Gymru gyfan.

Y bwrdd sydd hefyd yn perfformio waethaf am oedi mewn unedau brys ac amseroedd aros canser.

Mae’r gwnedidau perfformiad yn dilyn pryderon hirdymor am y ffordd y mae’r bwrdd yn cael ei reoli.

Cafodd y sefydliad ei osod mewn “mesurau arbennig” am yr eilwaith gan Lywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2023 yn dilyn gofidiau difrifol am lywodraethant a rheolaeth.

Cyn hynny treuliodd y bwrdd dros 5 mlynedd, rhwng 2015 a 2020, dan y lefel uchaf o oruchwyliaeth.


BBC News

Advertisements

See also  Rhaid dysgu gwersi o adroddiad brawychus Foden - Comisiynydd Plant

Check Also

Dau beilot wedi eu hanafu mewn damwain awyren RAF ar Ynys Môn

Mae dau beilot wedi cael eu hanafu yn dilyn adroddiadau o ddamwain yn ymwneud ag …

Emergency response to aircraft crash on Anglesey

Two pilots have been injured after reports of a crash involving RAF training aircraft. North …

Yr hanesydd o Lansannan sy’n mabwysiadu ieir

Ar hyn o bryd mae Mari’n rhoi gofal arbenig i Shakira sydd wedi dod ati …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime