google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Mam Josh Roberts yn gobeithio y daw’r ‘gwirionedd llawn’ i’r amlwg

Dywedodd Mr Gittins mai nid bwriad y cwest oedd rhoi bai ar rywun na datrys unrhyw gwynion, ond mai’r “maen prawf” oedd archwilio sut y bu farw rhywun a “sefydlu’r ffeithiau”.

Dywedodd y byddai’r cwest yn ystyried a gafodd Joshua ei daro tra oedd yn sefyll neu’n gorwedd, ac a oedd yfed alcohol wedi cyfrannu at ei farwolaeth.

Byddai hefyd yn edrych ar ei ymddygiad cyn iddo adael ei ffrindiau i gerdded adref, meddai’r crwner.

Ychwanegodd nad yw mater sy’n “destun pryder i berson o ddiddordeb” o reidrwydd yn dod â’r mater hwnnw o fewn cwmpas cwest.

Dywedodd Ms Tookey fod cyrraedd y pwynt hwn wedi bod yn “amser hir maith” a bod y sefyllfa wedi bod yn “anhygoel o anodd”.

“Rwy’n gobeithio y daw’r gwirionedd llawn i’r amlwg ynghylch pam y cafodd Josh ei gymryd oddi wrthym mor fuan pan oedd ganddo bopeth i fyw amdano,” meddai.

Ychwanegodd ei bod hi a’i theulu yn gobeithio am gwest “llawn a theg”.

Nid oes dyddiad wedi’i bennu ar gyfer y cwest eto.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.




BBC News

Advertisements

See also  Cardigan: Search after reports of a person in the water

Check Also

Boy, 6, who died in Llanfairfechan crash named as Harrison Jones

The GoFundMe fund-raiser was launched by Kate Jones to help cover Harrison’s funeral and memorial …

Teuluoedd cleifion Alzheimer’s: ‘Anodd gwybod pa gymorth sydd ar gael’

Ar ôl gorfod ffeindio’i ffordd ei hun drwy’r system, mae Megan bellach yn awyddus i …

Plaid Cymru yn anelu at gwmni Cymreig newydd ar restr FTSE 100 o fewn degawd

Mae Plaid Cymru yn diffinio cwmnïau twf uchel fel rhai sy’n “profi cynnydd cyflym mewn …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime