google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Yr hanesydd o Lansannan sy’n mabwysiadu ieir

Ar hyn o bryd mae Mari’n rhoi gofal arbenig i Shakira sydd wedi dod ati gyda thro yn ei gwddf.

“Cafodd Shakira ei deor yn Ynys Môn efo gwddw’ crwn felly dwi wedi cymryd Shakira i’w hadfer.

“Ond gan bod ganddi wddfdro a ieir yn gallu bod yn eitha’ ffiaidd wrth sbotio iâr wan, mae Shakira yn chillio o gwmpas y cŵn yn aml ac yn byw yn y tŷ.

“Mae’n mynd at vet hyfryd yn ochra’ Mochdre sy’n cynning therapi golau coch a physio i helpu ei gwddf bob hyn a hyn, sy’n hyfryd.”

Am ba hyd fydd yr ieir yng ngofal Mari?

“Mae’r ieir yma nes eu bod nhw’n mynd yn sâl, felly mae rhai ieir yn marw yma a rhai yn mynd at y ffariar – mae’n amrywio.

“Mae yna ffariars da efo ieir ochra’ yma felly dwi’n lwcus iawn. Dydi rhai ffariars ddim yn trin ieir fel anifeiliaid anwes, jest fel anifeiliaid amaethyddol ar ffermydd mawr sy’n hollol ddealladwy.”

Yn ôl Mari mae mabwysiadu ieir wedi ei chyflwyno “i gymuned newydd o bobl hyfryd, o bob cyfeiriad”.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.




BBC News

Advertisements

See also  Lluniau: Gŵyl Fwyd Caernarfon

Check Also

Boy wins award after steering car to safety when mum collapsed

A mother whose life was saved by her son’s quick thinking after she collapsed at …

Dyn, 61, wedi'i gyhuddo o lofruddio menyw, 47, ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Mae dyn 61 oed wedi’i gyhuddo o lofruddio menyw 47 oed ym Mhen-y-bont ar Ogwr. …

Aeron Pughe a’r ŵyl sy’n dathlu canu gwlad ym Machynlleth

Dywed Aeron bod pobl efallai’n cael y syniad anghywir o ganu gwlad, ac bod eu …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime